Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yn mhen enyd fe ga'dd ef fyned yn fankrupt, i safio talu i neb; ac y mae efe yn awr, am wn i, mewn gwlad nad oes gorphen talu byth. A rhyfedd y mae pob peth yn tynu i'w elfen: yr wyf yn cofio i mi settlo gydag ef yn Llandeilo; ac yr oedd ganddo orders i ddal chweugain oedd arnaf yn ferry Tal y Cafn, pan fuaswn yn myned gydag organ i Fangor, a minau a settlais âg ef am hwnw; mae y cyfrif i'w weled eto yn y llyfr lle yr oeddym yn cyfrif; ni thalodd ef ddim: fe fuwyd yn fy ngofyn yn mhen saith mlynedd, minau a ddangosais y lyfr, fy mod wedi settlo iddo ef: a llawer o'r cyffelyb bethau a wnaeth ef â mi ac ereill.

Ond ni waeth tewi-adref y daethymi o'r Ddeheubarth, heb na cheffyl na waggon; ac nid oedd dim genyf i droi ato, oddieithr gwneyd Interlude: a hyny a wnaethym.

Yn gyntaf, mi a aethym i Aberhonddu, ac a breintiais Interlude Y Pedwar Penaeth; sef Brenin, Ustus, Esgob, a Hwsmon," a dyfod at fy hen bartner i chwareu hono, a gwerthu y llyfrau.

Yr oeddwn gyda hyny yn cynnull subscribers at argraffu llyfr caniadau: sef, "Gardd o Gerddi." Fe argraffwyd hwnw yn Nhrefecca; mi a delais am hyny 52p., ac a ymadewais â dwy fil o lyfrau. Ac yn ganlynol, mi a wnaethym Interlude "Pleser a Gofid," ac a chwareusom hòno. Trachefn gwnaethym Interlude yn nghylch "Tri Chryfion Byd, sef Tylodi, Cariad, ac Angau." Canlyn hyny yr oeddwn i, a'm teulu yn Llandeilo yn gorphen cadw tafarn, a gorphen hefyd hyny oedd. o eiddo.

Mi a ddaethym a'r ferch ganol o'r tair gyda myfi i'r North yn gyntaf, ac a'i prentisiais yn Nghaer yn Filliner, ac a'i cedwais â chynnaliaeth bwyd a dillad, wrth chwareu.

Ac o'r diwedd fe ddaeth y wraig adref, gyda'r ddwy ferch ereill, ac a baciasant ryw faint o bethau gwely, a dillad a llyfrau; ac fe aeth y pac trwy Lundain; fe gostiwyd am eu cario yn nghylch cymaint ag a dalent.

Ond fe ddygwyddodd i mi gael arian oedd ar Cynfrig o Nantclwyd i mi, am gario coed o Ruddlan pan oeddwn yn cario coed Rug; ac hefyd arian am gario centre pont Rhydlanfair o Gaer. Yr oedd hyny gyda chwareu yn dipyn o help at gynnal y teulu.

Pan ddaethom i Ddinbych, nid oedd un tŷ, nes y dygwyddodd i mi gael rhyw ddau dy bychain, a minau a'u gwnaeth yn un, ac a'u taclais; a dyna lle yr wyf fi a'm gwraig eto.

Ac yr oedd gan fy nhad dŷ a thipyn o dir, rhwng Nantglyn a Llansannan; ond pan fu fy nhad farw fe aeth cyfreithiwr