Dinbych, am yr hen felldith, ac a droes fy mam i'r mynydd, ac a feddiannodd y tir; a chyda chwaer i mi, wrth Lanelwy, y bu fy mam farw.
Ac ar fyr wedi hyny, fe ddaeth clefyd ar y cyfreithiwr; minau a ysgrifenais ato yn lled erchyll, ac a ddechreuais osod rhai o ddychrynfeydd uffern ger ei fron; yn niffyg na byddai i mi gael fy nhir, y byddai fy melldith yn ei gnoi dros dragywyddoldeb yntau oedd mewn cyflwr truenus yn yr ystafell lle yr oedd ei wely, yn gwaeddi, ac yn drewi gan ryw ffieidd-dra oedd yn dyfod allan o'i gorph; yr oedd yn gorfod i'r dyn ag oedd yn tendio arno daflu finegr hyd y llofft, cyn y gallai fyned yn agos ato. Nid oedd un forwyn na doctor yn myned. ar ei gyfyl yn y diwedd; ac felly yr oedd ef yn ysgrechian yn ofnadwy, ac yn gwaeddi ar y mab i'w glyw, ac yn dywedyd, Ow! y tir i Dwm o'r Nant; ac felly fu.
Mae y tir genyf, drwy drugaredd, ac a brynais yleni werth 118p. ato o'r mynydd. Ond, fel y dywed Solomon, "Gwae a adeilado ei dŷ âg arian rhai ereill:" felly fe orfu i minau fenthyca; ac eto y mae arnaf ofid yn fy nghynnal fy hun i walio a chloddio o'i amgylch; ond yn enw Duw, mi wnaf hyny, os caf fi fywyd ac iechyd.
Mi a ddaethym drwy'r byd yn rhyfedd hyd yn hyn: mi a fu'm rhwng Sir Drefaldwyn a Deheubarth saith mlynedd: myned o'm gwlad mewn ofn a phrudd-der, a dyfod yn fy ol dan chwareu, gwedi ymadael âg ofn a'r achos o hono, o ran y byd, ond bod achos pwysig i ofni a chrynu o herwydd pechod; ac achos mwy i ddiolch ei bod hi cystal arnaf, ac fel y gallasai hi fod yn waeth.
Mi a gefais fy iechyd yn rhyfedd, trwy bob troion hyd yma; ond yn unig pan aeth y waggon ar fy nhraws wrth bont Rhuddlan, lle cefais brofedigaeth fawr, a gwaredigaeth fwy.
Pan godais ar ol i'r olwyn fyned trosof, mi a eisteddais ar ganllaw y bont, ac yna y clywn lais eglur yn dywedyd wrthyf, Dôs ac na phecha mwyach, rhag dygwydd i ti beth a fo gwaeth: ac felly yn dal i ddywedyd hyd oni ddaeth pobl ataf. Mi a ofynais i'r rhei'ny a oeddynt hwy yn clywed dim llais? hwythau a ddywedasant, Nac ydym ni.
A phryd arall y cefais waredigaeth neillduol wrth lwytho pren mawr yn nghoed Maes y Plwm. Yr oedd cario y pryd hyny, cyn unioni y ffyrdd, a'u gwneyd yn durnpikes, a'r waggons a ffrâm arnynt, a rowel ar y canol, tebyg i'r peth a elwir boulster; minau oeddwn yr ochr nesaf i Nant ddofn, yn troi yn y rowel, gyda throsol haiarn cryf ar olwg; fe dorodd hwnw
yn nhwll y rowel, onid oedd y dynion ag oedd yn edrych yn