Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu THOMAS EDWARDS fyw rai blynyddoedd ar ol iddo ysgrifenu yr hanes blaenorol: preswyliai yn nhref Dinbych; ond bu am beth amser cyn terfynu y fuchedd drangcedig hon, yn Nhan'r Allt, Tremadoc, yn mwynhau nawdd a chroeso gyda'r hybarch a'r anfarwol wladgarwr W. A. MADDOCKS, Ysw., yr hwn a fynodd gael tynu ei lun ef, yn ei lawn faint, gan luniedydd enwog ag oedd yn ei balas ar yr amser. Mae y Darlun hwn, medd y rhai a'i gwelsent, ac a adnabuent ei berson, yn ddarluniad cywir a pherffaith o hono yn ei ddyddiau diweddaf.

Dychwelodd o Dremadoc i Ddinbych yn lled afiach a phesychlyd; ac o'r afiechyd hwn y terfynodd ei einioes ar y trydydd dydd o Ebrill, 1810.

Er fod bywyd y Bardd clodwiw hwn wedi bod yn dra helbulus a thrallodus, cafodd y fraint o weled ei blant wedi sefydlu yn barchus a dedwydd mewn bywioliaethau llawnion a chysurus! yr hynaf a briododd Mr. ED. EVANS, Masnachydd yn Abergele; yr ail a briododd Mr. ED. WILLIAMS, Masnachydd yn Ninbych; a'r drydedd a briododd y Parch. ARTHUR JONES, D. D., yn awr o Fangor. Yr oedd Mrs. Evans, ei ferch hynaf, yn meddu ar gryn lawer o athrylith farddonol.

Yr oedd ei Gynhebrwng yn barchus a lluosog. Claddwyd ef yn mynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych. Yr oedd wedi parotôi cist—fedd iddo ei hun, ac wedi dechreu tori arni; ond diweddodd ei oes cyn tori ond y tri gair a ganlyn:— "LLYMA Y CLADDWYD"—Y mae hyn wedi ei adael yn anorphen ar un pen i'r gareg, a'r arysgrif gyflawn ar y pen arall. Anfonodd hybarch Gymdeithas y Gwyneddigion, Llundain, Faen Marmor costfawr er coffâd am dano, yr hwn sydd wedi ei osod ar y mur gorllewinol, oddifewn i'r Eglwys Wen, act yn gerfiedig arno lûn yr Awen yn wylo uwchben ei fedd, yn nghyda'r arysgrif ddilynol:—

Y MAEN HWN A OSODWYD GAN
GYMDEITHAS Y GWYNEDDIGION LLUNDAIN,
ER COF AM
THOMAS EDWARDS, NANT,
Bardd rhagorol yn ei oes.
Bu farw Ebrill y 3ydd, B.A., 1810.—Ei oed 71.


Geirda ro'i i gywirdeb;—yn benaf
Ni dderbyniai wyneb:
A rho'i sen i drawsineb,
A'i ganiad yn anad neb.

Er cymaint oedd braint a bri—ei anian
Am enwog farddoni,
Mae'r Awen a'i hacen hi,
Man tawel, yma'n tewi.