ydd poblogaidd, ac er boddio archwaeth ei wrandawwyr, brithai ei waith â nifer mawr o ymadroddion masweddol felly hefyd Twm o'r Nant. Tebygolent hefyd mewn llawer o bethau ereill.
Ei waith yn gyffredinol a ddengys ei fod yn feddiannol ar y cymhwysderau hyny yn gyflawn ag sydd yn anhebgorol angenrheidiol i Fardd fod yn feddiannol arnynt, sef, "Llygaid yn canfod anian, Calon yn teimlo anian, a Glewder a faidd gydfyned âg anian."
Yr oedd yn beth lled ryfedd iddo ar ol ei ddychweliad o'r Deheudir gael y gwaith o osod beddfaen ar y cyfreithiwr a fu gynt yn ei erbyn; gwedi iddo ei osod, a thori yr arysgrif, cymerai ddarn o chalk, ac ysgrifenai yr Englyn canlynol ar ei fedd;—
"Hen elyn melyn i mi—a fuost
Yn dy fawaidd groesni;
Minnau ges osod meini,
Dew faedd d{{bar|2))l ar dy fedd di.'"
Aeth ryw dro, pan yn byw yn Nghaerfyrddin, ar ryw neges i Lanymddyfri a chafodd ar y mwyaf o wirod yno, ac wrth ddychwelyd adref, syrthiodd i'r ffos; gofynai rhyw un wrth fyned, pa sut y daeth yno; i'r hyn yr atebai—
Y brandy coch godymodd gant,
Roes godwm teg i Twm o'r Nant.
Dygwyddai fod ryw dro mewn parlwr ty tafarn, yr hwn oedd yn llawn o fasnachwyr parchus, a chyfansoddai Englyn i bob un o honynt yn ddiatreg. Ond yr oedd un yn eu plith wedi ei hebgor, swydd yr hwn ydoedd baili, a phan ganfyddodd nad oedd ef yn cael yr un fraint a'r lleill, ebai ef, Gwnewch Englyn o glod i minau, Thomas. Atebai—
"Heriwr a bwliwr yw'r baili,—labrwr
Hyd lwybrau trueni;
Aeth ganwaith, do, werth gini,
Dew ful dwl, i dy fol di."
Bardd Nantglyn a gyfarfu Thomas un diwrnod, ac a'i cyfarchai fel hyn,—
"Dyma Tomas a dwy res o fotymau?"
I hyn yr atebai, gan gyfeirio at swydd y Bardd,
"Y teiliwr a'm twyllodd 'gael tâl am y tyliau."
CAERNARFON: ARGRAFFWYD GAN H. HUMPHREYS,