COFIANT, &c.
Dringodd o ddyfnder angen—yn delaid,
A'i dalent ddisgywen;
Daliodd, derbyniodd i'w ben
Dwysg leithoedd uwch dysg Athen.—GWYNDAF ERYRI.
NID dim llesiant neillduol a weinyddodd RICHARD ROBERT
JONES i gymdeithas sydd wedi galw am gofiant iddo, ond ei
hynodrwydd yr hyn sydd wedi gwneyd ei enw yn dra hysbys. Darfu i natur ei gynnysgaethu âg amrywiol o bethau gwahanol i ddynion ereill: megys, pen hynod, gwyneb hynod,
llygaid hynod, a llais hynod. Gwnai yntau ei hun yn fwy
hynod fyth, drwy adael ei farf yn hirllaes, ac arfer bob amser
fwng tew o wallt ar ei ben, yr hwn a ddisgynai ar ei ysgwyddau a'i wàr grymedig. Hefyd, ymwisgai yn wastadol â
rhyw wisgiad hynod—yr oedd ei ddull o fyw yn hynod—ei
arferion yn hynod—ac nid anhynod fyddai ei atebion yn gyffredin ond yr hynodrwydd mwyaf ag oedd yn perthyn iddo.
oedd, hoffder a medrusrwydd anarferol at ddysgu gwahanol
ieithoedd.
RICHARD ROBERT JONES a anwyd yn mis Gorphenhaf, yn y flwyddyn 1780, mewn tŷ bychan o'r enw Carn Eos, o fewn milldir i Aberdaron; pentref bychan ar lân y môr, yn nghwr eithaf gorllewinol Llëyn, swydd Gaernarfon. Ystyrir y cŵr hwn o Lëyn yn mhellach yn ol mewn gwareidd-der a dysg nag un parth o'r swydd—"Gwirioniaid Aberdaron" sydd ddiareb arferedig yn Nghymru. A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? neu, yn hytrach, a ddichon dim dysgeidiaeth ddyfod o Aberdaron sydd ymholiad, pan y dywedir fod Dic Aberdaron yn feistr ar luaws o ieithoedd. Buasai yn haws perswadio gwerinos ein gwlad fod enwogrwydd yn perthyn i Richard, pe cawsem ganddynt annghofio mai yn Aberdaron y ganwyd ef—ond gwaith anhawdd fyddai hyny, canys mor fynych ag yr enwir ef ganddynt yn Dic, nodir lle ei enedigaeth fel cyfenw iddo, Dic Aberdaron. Enw ei dad ydoedd Robert Jones, ond a elwid yn fwy cyffredin gan ei gymydogion yn Robert Siôn Edward;