Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Cymru America.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGLITH

At y Cymry yn Gyffredinol, yn Mhob Gwlad:

ANWYL GYDGENEDL-Cyhoeddwyd llawer o gyfrolau gwerthfawr, o bryd i bryd, gan awduron enwog, yn cynnwys hanes Cymry Gwalia, a'u gorchestion, a'u defodau, a'u llenorion, a'u llenyddiaeth, a'u heglwysi, a'u gweinidogion, &c., y rhai a ddarllenwyd gan y miloedd. Teimlwyf y dyddordeb mwyaf yn yr hanesion hyny; ac nid all dim byth ddileu yr adgofion melusion sydd ynwyf am enwogrwydd a rhagorfreintiau y Cymry yn anwylaf "Wlad ein Tadau," na lladd fy awyddfryd cryf am lwyddiant a dyrchafiad fy nghydgenedl yn mhob gwlad. Ond collasant eu llywodraeth, a'u rhyddid i raddau helaeth yn eu gwlad eu hunain; a dylent folianu y Goruchaf am agor drws mawr a llydan iddynt i feddianu tiroedd ffrwythlon, cartrefi dedwyddol, addysg dda, a rhyddid gwladol a chrefyddol, dan Lywodraeth Werinol enwog yr Unol Dalaethau, a manau ereill yn America.

Mae "Cymry America," er ys blyneddau, yn genedl luosog, yn bobl gyfoethog a chyfrifol, ac yn Gristionogion Beiblaidd, selog, a dylanwadol, yn y wlad hon. Ond nid oeddynt hwy eu hunain yn gwybod ond ychydig o hanes eu gilydd, am eu bod mor wasgaredig; ac yr oedd Cymry yr Hen Wlad yn gwybod llai fyth am danynt, am eu bod wedi ymfudo mor bell oddiwrthynt. Maent yn wir deilwng o hanes helaethach nag a gyhoeddwyd gan neb eto am danynt; ac y mae mawr angen am hyny, er lles cyffredinol y genedl yn y ddwy wlad. Cyflenwi yr angen yna yw prif amcan awdwr y llyfr hwn. Creda ei fod yn meddu teimlad gwir genedlgarol; galara oblegid ffaeleddau ei gydgenedl, ond llawenycha o herwydd eu llwyddiant mewn rhinwedd, purdeb, a