Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gychwyn drwy sylwi ar y pethau mwyaf, yna trodd at bethau llai, a chyn diwedd ei thaith aeth y pethau lleiaf â'i sylw, pethau rhy fach i'r llygad noeth eu gweld neu i'n cloriannau arferol eu pwyso. Y mae digon o eithriadau i'r gosodiad hwn yn ddiau: y mae'r mawr a'r bach yn bynciau efrydiaeth yn aml gyda'i gilydd yn yr un wyddor neu gan yr un gwyddonydd. Ond gwna'n tro fel disgrifiad cyffredinol. Seryddiaeth oedd maes un o'r rhagflaenwyr a ennwyd eisoes, Copernicus, ac fe gofir mor hen yw'r wyddor honno fel maes ymchwil dyn, gan mai tua'r haul a'r sêr y trodd offeiriad hen fyd yr Aifft a Babilonia eu llygaid gynt. Copernicus a dynnodd y ddaear oddiar ei gorsedd, pan brofodd mai hi a droai o amgylch yr haul ac nid fel arall yn ôl y dyb gyffredin, ac ar ei ôl darganfu Kepler (1571-1630) y deddfau a reolai symudiad y planedau yn eu cylchoedd. Yna perffeithiodd Galileo (1564-1642) y telescope cyntaf, a thrwyddo gwelodd y brychau ar yr haul a lleuadau Jupiter, a chyhoeddodd fod yr haul yntau'n troi ar ei echell. Yr un pryd dywedodd Bruno (1548-1600) mai seren oedd yr haul a bod pob seren yn haul gyda phlanedau efallai'n troi o amgylch bob un. Ychydig iawn o sail erbyn hyn oedd i'r hen syniad am y ddaear fel canolbwynt y greadigaeth—nid oedd ddim amgen nag un blaned yn troi o gwmpas yr haul a'n cyfundrefn heulog ni yn ddim ond un ymhlith lliaws mawr o gyfundrefnau eraill.

Cafodd pob un o'r seryddwyr hyn help neilltuol oddiwrth hen wyddor arall, Rhifyddiaeth, ac yn fuan iawn deuwn at enwau mawr yn y maes hwnnw fel Descartes (1596-1650) a John Newton (1642-1727).