Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y byd a'i fywyd i lywodraethu meddwl dyn. Defnyddiodd yntau ei ryddid newydd yn hyderus gan chwilio ymhob cyfeiriad am lwybrau newydd a meysydd newydd i'w feddwl a'i ddychymyg droi iddynt. Ni ddaeth, wrth gwrs, i'w gyflawn ryddid ar unwaith, a mynych y codai rhwystrau o wahanol gyfeiriadau ar ei ffordd. Trwy rhyw ddallineb rhyfedd gwrthwynebodd yr Eglwys y mudiad hwn hyd yn ddiweddar, a thu allan iddi nid edrychid bob amser yn rhy ffafriol arno. "Nid oes ar y Chwyldroad eisiau gwyddonwyr," meddai'r Ffrancod, pan dorrwyd pen Lavoisier ganddynt.

Araf, hefyd, yr enillodd Gwyddoniaeth ei lle yn yr hen brifysgolion. Ond cynhyddai ei buddugoliaethau o oes i oes, ac erbyn hyn yr unig awyrgylch feddyliol sy'n bosibl inni yn Ewrop yw'r un sy'n gynnyrch uniongyrchol gwaith a safbwynt y gwyddonwyr.

Bu effaith y mudiad hwn, hefyd, yn aruthrol ar fywyd beunyddiol dyn, oherwydd yn sgil pob darganfyddiad deuai rhyw ddyfais ymarferol a newidiodd lawer ar fywyd allanol dyn. I gymryd esiamplau'n unig o ddechrau ac o ddiwedd y cyfnod, gellir nodi effeithiau darganfyddiadau'r seryddwyr ar forwriaeth a darganfyddiadau Pasteur a Lister ar ddulliau'r meddygon o iachau clwyfau'r corff. Bu'r seryddwyr gyda'u mapiau cywir o'r ffurfafen a'r moroedd yn gymwynaswyr i holl longau'r byd, ac achubodd dulliau newydd y meddygon a seiliwyd ar waith Pasteur a Lister fwy o fywydau mewn un genhedlaeth nag a ddinistriwyd mewn canrif gyfan o ryfela rhwng gwledydd Ewrop a'i gilydd. Ond yr enghraifft gliriaf o'r peth ar raddfa fawr yw'r Chwyldroad Diwydiannol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heb wyddoniaeth