Mynwy, a bu ei dyfodiad yn symbyliad mawr i'r fasnach lo a haearn. Rhwng 1836 a 1856 dyblodd nifer y tunelli o lo a gloddiwyd yn Neheudir Cymru, ac fel y chwanegid milltir at filltir o reilffyrdd, yr oedd angen mwy o haearn i wneuthur y ffyrdd hynny a mwy o lo wedyn i yrru'r peiriannau a chludo cyfoeth y gweithfeydd i bob rhan o'r wlad. A chludid y cyfoeth hwnnw cyn bo hir i bob rhan o'r byd, oherwydd dechreuwyd yn fuan yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddefnyddio ager ar y llongau a groesai'r moroedd, a symbylodd hynny lawer ar fasnach gyd-wladol y byd.
Gartref bu canlyniadau'r chwyldroad diwydiannol yn nodedig mewn amryw ffyrdd. Meddylier, er enghraifft, am ei effaith ar boblogaeth Prydain ac ar y cyfartaledd rhwng trigolion y wlad a'r dref. Dyma rai ffigyrau yn ôl ymchwil fanwl Dr. Clapham. Amcangyfrifir bod saith miliwn a chwarter o bobl yn byw ym Mhrydain yn 1750, ond erbyn 1831 dyblwyd y nifer (16 miliwn). Rhwng y cofrestru cyntaf (1801) a'r trydydd (1831) cynhyddodd poblogaeth Morgannwg 77% ac un Mynwy lawer iawn mwy na hynny (117%). Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y wlad a'r trefi bychain oedd cartref mwy na hanner trigolion Prydain ond, pan heidient i'r trefi mawr lle roedd y gweithfeydd a'r ffactrioedd, cynhyddai rheini'n aruthrol a gwachawyd llawer ar yr ardaloedd gwledig. Dyna, hefyd, a fu effaith Deddfau'r Cau'r Tir (Enclosures) o 1790 i 1810, a rhwng popeth newidiodd bywyd a gwareiddiad Prydain i raddau mawr iawn o fod yn un gwledig ac amaethyddol i fod yn un gweithfaol a threfol. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng Ffrainc a Lloegr yn hyn, ac erys felly hyd y dydd hwn mewn ystyr wirioneddol iawn.