y llys. Ni allasai peiriant mor amherffaith â chyfundrefn llywodraeth Ffrainc ddal ati'n hir heb dorri lawr yn llwyr. Mwy na hynny, teyrn anghyfrifol oedd brenin Ffrainc o'i gymharu, dyweder, â brenin Lloegr yr un adeg. Ef yn hytrach nag unrhyw senedd a benderfynai pa drethi i'w codi, ac ni roddid cyfrif i neb sut y gwerid yr arian. Am fwy na chanrif a hanner (1614-1789) ni chyfarfu'r hyn a alwem ni'n senedd o gwbl yn Ffrainc (etats-generaux), a gweithredai'r brenin y rhan amlaf yn ôl ei fympwy personol neu yn ôl cyfarwyddid ei gynghorwyr personol.
Pendefigion ei lys oedd y rheini, ac yn wahanol i farwniad Lloegr tua'r llys ac o amgylch y brenin y byddent yn barhaus, yn hytrach nag adref yn gweinyddu'r llywodraeth sirol neu leol. Gwaeth na hynny, rhyddhawyd hwynt a'r clerigwyr pennaf o lu o ddyletswyddau a threthi a fu'n faich llethol ar y rhelyw o'r boblogaeth. Rhwng popeth—annhrefn y llywodraeth, gallu diderfyn y teyrn, gormes y bendefigaeth a'r Eglwys, a chyflwr difrifol y werin—aethai pethau'n rhy bell i unrhyw ddiwygiad drwy gyfrwng deddf neu senedd fodloni Ffrainc, ac yn 1789 torrodd y chwyldroad allan. O safbwynt gwareiddiad Ewrop yr hyn a rydd bwysigrwydd iddo yw mai Ffrainc yn gyntaf ar y cyfandir a ysgubodd allan o'r ffordd rai drygau mawr a ddaeth i lawr o'r canol oesoedd, a hi osododd sylfeini newydd i fywyd gwleidyddol a chymdeithasol Ewrop. Gwyddai ambell wlad cyn hyn am chwyldroadau i newid un teyrn am un arall, ond nid dyna amcan Ffrainc yn awr, eithr yn hytrach newid ffurf y llywodraeth a threfn gymdeithasol y wlad. Fel y dywed un