Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

setlo'u gwahaniaethau. Ymhen cenhedlaeth wedyn sylweddolwyd mwy ar ei ddelfrydau yng nghyfamod Cynghrair y Cenhedloedd sy'n rhan o'r Heddwch (1919) y cytunwyd arno ar derfyn y Rhyfel Mawr (1914-18).

Wrth fwrw golwg dros symudiadau meddwl a bywyd dyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r rhai o'i blaen, cyfyd un cwestiwn yn barhaus i feddwl pobl a gofynnir ef heddiw mor eiddgar a phryderus ag erioed. Wedi'r holl gyfnewid a datblygu a gwareiddio, a yw'r byd mewn gwirionedd yn well neu, ynteu, ai gwaethygu y mae, neu o leiaf yn aros yn ei unfan? Dull arferol dyn o fynegi ei benbleth a'i betrusder ar y mater y dyddiau yma yw hwn: ar derfyn oesoedd o gynnydd a gwareiddiad, wele'r rhyfel mwyaf ofnadwy yn hanes y byd, a dywedir bod gwyddoniaeth eisoes wrthi'n dyfeisio creulonderau mwy dychrynllyd ac arfau mwy dinistriol fyth ar gyfer y rhyfel nesaf. Ymddengys fel petai gwareiddiad unwaith eto ar groesffordd, a bod ei lwyddiant a'i gynnydd eithriadol wedi cynhyrchu dylanwadau sy'n brysur yn ei wenwyno. "The secrets of nature," medd y Deon Inge, "have been penetrated, and its forces, one after another have been harnessed to a car of Juggernaut, which seems now to be crushing its own victims." Faint bynnag o wir sydd yn hyn, y mae'n amlwg ddigon nad rhywbeth a ddaw wrth ei bwysau, heb na nod nac ymdrech, yw cynnydd gwirioneddol. Deil yr hen frwydr rhwng y da a'r drwg, rhwng y pethau a ddiogela wareiddiad ac a'i dinistria, ac mewn cyfnod fel hwn awgryma pob argoel mai parhau a wna'r frwydr. Ond cyhyd ag yr erys rhai a gred na orchfygir y dylanwadau a ddyrchafa ac a ddiogela wareiddiad, nid disail y gobaith ynglŷn â chynnydd y byd.