ddylanwadodd arno'n fwy uniongyrchol ac yn nes i mewn, megis, yn ei fywyd. Ni ellir pwysleisio gormod ar effaith y rheini. Pwy sydd yna, er enghraifft, na wêl mor hanfodol yw addysg i ddatblygiad gwareiddiad teilwng o'r enw? Cyflafan fawr y chwyldroad diwydiannol ym Mhrydain fu na ddaeth diwygiad addysgol yr un pryd. Tra cafwyd dyfais ar ôl dyfais i gyfnewid holl amgylchiadau ac amodau gwaith dyn tua diwedd y ddeunawfed ganrif, bu'n rhaid aros tan 1870 am ddeddf a wnai addysg yn gyffredinol yn ein gwlad. A dyfnha'r angen am fwy a gwell addysg, fel y datblyga adnoddau allanol gwlad. Hynny'n unig a'n galluoga i'w defnyddio'n iawn ac i wybod beth sy'n hanfodol i wir gynnydd a pheth nad yw.
Ychydig bethau sy'n bwysicach na syniad gweddol glir parthed y nod y cais ein gwareiddiad ymgyrraedd ato. Nid oes neb a wad i ddyn drwy'r oesoedd chwanegu'n ddirfawr at ei wybodaeth a'i brofiad a'i gyfoeth. A fu'r canlyniadau'n werth yr ymdrech? Trueni fyddai i ddyn gynhyddu yn ei goncwest ar Natur a'r galluoedd materol o'i gwmpas ac i'w wybodaeth o'r da a'r gwir a'r prydferth a'i fwynhad ynddynt wanhau'r un pryd. Yn y pen draw bargen sâl ac un ddrud iawn yw i ddyn neu oes ennill yr holl fyd a cholli ei enaid ei hun. Bu hyn yn argyhoeddiad dynion ar hyd y canrifoedd, a theg yw cofio ei fod felly heddiw i lawer iawn. Nid at amcanion dinistriol, er enghraifft, y cymhwyswyd fwyaf hyd yn hyn ar ddarganfyddiadau'r gwyddonwyr. Os gwnaethpwyd rhyfel yn beth mwy echrydus nag erioed, symudwyd hefyd rai heintiau'n llwyr o'r byd, trowyd gwledydd cyfain yn gartrefi iach i ddynion a chwanegwyd llawer at gyfle