Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ATODIAD I.
AMSERYDDIAETH

NODIADAU. i. Dynoda c (llythyren gyntaf y gair Lladin circa-oddeutu, tua) na ellir bod yn sicr i'r flwyddyn fod dyddiad neilltuol yn gywir.

ii. Fel rheol blynyddoedd teyrnasiad brenin neu weinidogaeth proffwyd neu bab a roddir ac nid dyddiad eu geni a'u marw.

iii. c.c.=Cyn Crist. o.c.=Oed Crist.

Dechreuad gwareiddiad hanesyddol c. 4000 c.c.
Uno'r Aifft dan Menes. 3400 c.c.
Oes y Pyramidiau. 3000-2500 c.c.
Llongau'r Aifft yn croesi'r Môr Canoldir c. 3000 c.c.
Uno Babilonia dan Sargon o Acad. c. 2773 c.c.
Hammurapi (? cyfoeswr Abraham). 2067-2025 c.c.
Gwareiddiad uchel yng Nghreta c. 2000 c.c.
Thutmose III, "Napoleon yr Aifft" 1500-1447 c.c.
Gwareiddiad cynharaf Groeg (Tiryns a Mycenae) c. 1500 c.c.
Amenhotep IV, diwygiwr crefydd yr Aifft c. 1375 c.c.
Tutenkhamon c. 1350 c.c.
Ramses II (? Pharo'r Gorthrwm) 1275-25 c.c.
Yr Ecsodus c. 1200 c.c.
Rhyfel Caerdroia c. 1200 c.c.
Sefydlu'r frenhiniaeth dan Saul 1030 c.c.
Rhannu'r frenhiniaeth wedi marw Solomon 937 c.c.
Y Caneuon Homeraidd. c. 800 c.c.
Sylfaenu Dinas Rhufain 753 c.c.
Proffwydi'r wythfed ganrif (Amos, Hosea, Eseia) 750-690 c.c.
Asyria'n goresgyn Israel a chwymp Samaria 722 c.c.
Proffwydi'r seithfed ganrif a'r gaethglud (Jeremeia Eseciel, II Eseia) 650-538 c.c.
Thales. 640-550 c.c.
Brwydr Megido (yr Aifft yn gorchfygu Juda) 608 c.c.
Brwydr Carchemis (Babilonia'n gorchfygu'r Aifft) 605 c.c.
Aesop . c. 600 c.c.
Oes Euraidd Athen 600-400 c.c.
Babilonia'n goresgyn Juda a chwymp Caersalem 586 c.c.
Persia dan Cyrus yn concro Babilonia a diwedd y gaethglud 538 c.c.
Sefydlu gwerin-lywodraeth Rhufain c. 500 c.c.
Canrif athrylith Athen: oes Pericles, Sophocles, Thucydides, Phidias, Socrates, Democritus, etc. 500-400 c.c.