HANES GWAREIDDIAD
PENNOD I
RHAGARWEINIOL
NID peth hawdd yw diffinio gwareiddiad yn foddhaol neu daro ar ddisgrifiad cryno ohono, ond y mae'r gwahaniaeth rhwng pobl wareiddiedig a rhai anwar neu farbaraidd yn weddol glir i bawb. Fel y datblyga gwareiddiad, aiff bywyd yn fwy aml-ochrog a chymhleth ac ar yr un pryd yn gyfoethocach a llawnach ei ystyr. O'i gymharu â dyn anwaraidd gŵyr dyn a wareiddiwyd eisoes fwy lawer amdano'i hun a'i fyd, y mae'n fwy o feistr ar alluoedd Natur ac ar holl amgylchedd ei fywyd, ac y mae ei gymdeithas â'i gyd-ddyn gryn lawer yn ehangach a dyfnach. Yn y pethau hynny a gyfrifir yn bwysicaf a rhagoraf mewn bywyd cyrhaeddodd dir uwch lawer na'r dyn anwar y mae hyn, er enghraifft, yn wir am ei wybodaeth a'i ddiwylliant, am ei gelf a'i allu ymarferol, am ei drefn gymdeithasol a'i lywodraeth, ac am ei foesoldeb a'i grefydd. Ymhob rhyw fodd golyga bywyd fwy iddo a chaiff yntau fwy allan ohono. Er mwyn gweled y gwahaniaeth yn ddigon eglur, nid rhaid i ddyn ond meddwl am yr hyn ydyw bywyd i ni yng Nghymru'n awr a'i gymharu â'r hyn ydoedd i'n hynafiaid yma ganrifoedd lawer yn ôl neu â'r hyn ydyw hyd heddiw i lwythau anwar y ddaear.
Os yw'n anodd llunio diffiniad o beth mor aml ei agweddau â gwareiddiad, gellir ar unwaith enwi rhai o'i nodweddion amlycaf. Ym marn un awdurdod