ac i gyffelyb ystyriaethau naturiol a fu'n ffafriol i ddatblygiad ei phobloedd o ran eu cyrff a'u hiliogaeth: yn wir, yn ôl un ysgol o ysgrifenwyr, dyma'r dylanwadau cryfaf yn y pen draw. Nid oes angen diystyrru yr agweddau yma, er inni droi i gyfeiriadau eraill am y rhesymau pwysicaf. Ar gyfrif ei sefyllfa a'r ffaith bod gwareiddiad wedi symud o'i gartref gwreiddiol i'r Gorllewin yn hytrach nag i'r Dwyrain, Ewrop a fu'n etifedd naturiol gwareiddiad yr hen fyd, ac nid oes, gan hynny, wareiddiad hŷn nag un Ewrop. Ni ellir mwyach gredu traddodiadau'r Indiaid a'r Chinëaid a honna mai eu gwareiddiad hwy yw'r hynaf yn y byd. Cartrefi cyntaf gwareiddiad gweddol uchel yn ddiamau oedd yr Aifft a Babilonia, ac ni bu'r India a China heb deimlo rhywfaint o ddylanwad y gwareiddiad hwnnw; ond Ewrop yn bennaf a'i diogelodd, ac ar ei sylfeini yr adeiladodd hithau ei gwareiddiad cyfoethocach ei hun.
Wrth fwrw golwg dros wareiddiad Ewrop heddiw hawdd yw canfod olion llu mawr o ddylanwadau arno, eithr yn ei agweddau pwysicaf effeithiodd tair gwlad yn ddyfnach arno na'r gweddill gyda'i gilydd: ac onibai am eu dylanwad hwy buasai'n bywyd yn Ewrop heddiw yn wahanol iawn i'r hyn ydyw. Y tair yw Canan, Groeg a Rhufain. Yn natblygiad moes a chrefydd y Gorllewin daeth yr ysbrydiaeth bennaf o grefydd Israel ac yna o Gristnogaeth, ei holynydd. Ym myd y meddwl—byd yr athronydd, y gwyddonydd a'r llenor—fe adeiladodd Ewrop ar seiliau a osodwyd i lawr gan y Groegwyr. A gosododd Rhufain ei delw hithau'n glir iawn ar ein bywyd allanol—ar ein deddfau a'n llywodraeth, ein trefniadau a'n sefydliadau cymdeithasol a gwladol.