PENNOD II
CYN GWAWR HANES
CYFYNGIR hanes, yn ystyr fanyla'r gair, i'r digwyddiadau a'r cyfnodau hynny ym mywyd dyn y mae gennym mewn rhyw ffurf neu'i gilydd gronicl ysgrifenedig amdanynt. Oesoedd hanes, gan hynny, yw'r rhai y dibynnwn am ein gwybodaeth yn eu cylch ar ddefnyddiau a fu unwaith neu y sydd yn awr ar gof a chadw mewn ysgrifen o rhyw fath—ar feini, dyweder, neu ar grwyn, ac yn enwedig mewn llawysgrifau a llyfrau. Tu ôl i'r oesoedd hynny, drachefn, ymestyn canrifoedd dirif cyn bod unrhyw ddull o ysgrifennu; a dibynna'n gwybodaeth am y cyfnodau meithion hyn ar bob math ar olion bywyd dyn cyntefig ar ei domenydd a'i ogofau, ei feddau a'i esgyrn, ei arfau a'i gelfi. Nid yw'r ffin rhwng y ddau gyfnod bob amser yn un hollol glir a phendant efallai anodd dywedyd ambell waith pa un ai i gyfnod hanes neu i'r un cynhanesyddol y perthyn digwyddiad neilltuol, ac fe ysgrifennwyd yng nghyfnod hanes nifer mawr o bethau, fel traddodiadau gwerin, a fodolai gynt am ganrifoedd ar lafar. Ond y mae'r gwahaniaeth rhwng y naill gyfnod a'r llall yn un digon naturiol ac yn un tra chyfleus i'w gadw mewn golwg, pan geisir olrhain bywyd dyn o'i gychwyn pell ganrifoedd lawer yn ôl.
Y peth cyntaf a welir, os derbyniwn y rhaniad hwn, yw mai cyfnod hynod o fyr, o'i gymharu â'r un o flaen, yw cyfnod hanes, er mai ef yw'r pwysicaf o'r ddau i ni.