nodweddion amlycaf a'i gwahaniaetha oddiwrth bob creadur arall yw'r ddawn amhrisiadwy hon a rodded. iddo ef yn unig, ymhlith yr holl greaduriaid, a all wneuthur celfi ac arfau ac offer gwaith, a hawdd yw dychmygu gymaint a fu ei fantais ar gyfrif hynny. Ac wrth wylio fel y datblyga ei offer a'i gelfi y gellir mesur orau ei gynnydd mewn gwareiddiad yn y cyfnod maith cyn gwawr hanes.
Yr enw arferol ar yr adran gyntaf o'r cyfnod hwnnw yw Hen Oes y Cerrig (Palaeolithic)[1] am mai offer a chelfi o garreg heb ei naddu na'i chaboli rhyw lawer oedd rhai dyn yr adeg honno, ac ni wyddai'r pryd hynny ddim am feteloedd o unrhyw fath. Heliwr oedd dyn yn y cyfnod hwn, yn byw ar ei ben ei hun gyda'r nesaf peth i ddim o fywyd teuluol neu gymdeithasol. Mewn ogof y gwnâi ei gartref a'i elynion pennaf oedd y bwystfilod y bu'n rhaid iddo ymladd gymaint yn eu herbyn. Ond gwyddai dyn yr adeg hon sut i gynneu tân a gallai siarad rhyw fath ar iaith. Yn ystod Hen Oes y Cerrig yr oedd Ewrop a Phrydain yn un cyfandir heb rimyn o fôr rhyngddynt, a rhennir yr Oes faith hon yn adrannau llai yn dwyn enwau'r mannau hynny y darganfuwyd olion neilltuol ynddynt. Dilynwyd hi gan Oes Newydd y Cerrig (Neolithic),[1] ond ni ellir dywedyd yn bendant bryd y diweddodd un a phryd y dechreuodd y llall. Ni ddigwyddodd hynny yr un adeg ymhob gwlad: tra parhai gwareiddiad un wlad i berthyn i Hen Oes y Cerrig, symudasai gwlad arall i wareiddiad Oes Newydd y Cerrig. Yn honno y mae'r arfau a'r celfi yn llawer mwy caboledig a