Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

taleithiol yn gyfrifol i'r ymherodr ei hun. Ynglŷn â hyn gellir cyfeirio at dabledi o glai a ddarganfuwyd yn 1887 yn Tel-el-amarna ar Neil: llythyrau ydynt oddiwrth swyddogion y Pharo yn Syria a Phalesteina, a sonia rhai ohonynt am Habiri yn meddiannu Palesteina, a thybir yn gyffredin mai hynafiaid yr Israeliaid yw'r Habiri (Hebreaid) yma. Nid gormod, yn wir, fyddai honni bod rhyw fath ar wleidyddiaeth gyd-wladol (international relations) yn bod yn nyddiau euraidd yr Aifft a Babilonia. Gwnâi gwahanol wledydd gytundebau â'i gilydd, anfonent genhadon y naill at y llall, a bu mynych gyfathrach a brwydro rhyngddynt o dro i dro.

Nid uchelgais teyrn yn unig a barodd gynnydd yn y gwledydd hyn, eithr arweiniodd masnach i ddatblygu mawr ym mywyd a gwareiddiad y trigolion. Yr oedd daear Babilonia mor ffrwythlon fel y ceid tri chnwd yn flynyddol ohoni, a golygai hynny fod ganddynt fwy na digon yn weddill i'w werthu i bobl eraill, a gwyddai marchnadoedd yr hen fyd yn dda am yd a gwlan (cf. Josua 7:21—"mantell Babiloneg deg") a lledr Babilonia. Yn fuan iawn yn ei hanes adeiladodd yr Aifft, hefyd, longau digon mawr i gyrchu nwyddau o wledydd y Môr Canoldir a thu draw i'r Môr Coch: croeswyd y Môr Canoldir gan Eifftiaid gynhared o leiaf â'r xxx ganrif C.C., ac ymhen canrifoedd wedyn torrwyd camlas ganddynt i gysylltu hwnnw â'r Môr Coch rhagredegydd Suez Canal ein dyddiau ni. Ni ddefnyddid arian bath hyd yma. Cyfnewidid nwyddau i ddechrau, ond cyn bo hir gwasanaethai modrwyau neu farrau aur ac arian o wahanol bwysau yn lle nwyddau fel tâl am yr hyn a brynid. Y mae'n ddigon naturiol, hefyd,