Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynhyrchion yw'r nodwedd amlycaf yng ngwaith arlunwyr ac yn enwedig cerflunwyr y cyfnodau hyn, eithr yn hytrach eu mawredd a'u haruthredd. Pyramid mawr Gizeh yw'r adeilad carreg mwyaf yn yr hen fyd yn ei ymyl y mae'r Sphinx, y cerflun mwyaf ar lun dyn a welodd y byd erioed. Y mae'r adeiladau hyn, ynghyd â'r delwau anferth o gwmpas Thebes a Karnak, ac olion temlau mawr Babilonia yn eu ffordd eu hunain yn arwyddocaol iawn o'r gwareiddiad a roddes fod iddynt. Yr oedd rhywbeth anferth, stolid, a thrwm ynddo, yn enwedig ym myd y celfau cain.

Mewn cyfeiriadau eraill y mae'n dyled fwyaf i'r Eifftiaid a'r Babiloniaid, ac efallai mai eu cymwynas bennaf oedd dyfeisio ffyrdd i ysgrifennu. Mor bell yn ôl a'r xxxv ganrif C.C., ysgrifennai'r Eifftiaid ryw ychydig ar feini, ond bu'r datblygu mawr ar ôl darganfod hwylused oedd brwyn-bapur eu hafon at y pwrpas. Nid oedd y geiriau fel yr ysgrifennwyd hwynt i ddechrau yn ddim amgen na darluniau o'r pethau a gynrychiolent, a'r pryd hwnnw, gair, yn hytrach na sillaf neu lythyren, oedd yr unit. Wedyn cynrychiolai darlun un sillaf, ac felly arwydd ydoedd o sain neilltuol yn hytrach nag o wrthrych. Yr oedd iaith erbyn hyn yn seiniol (phonetic), ac nid darluniadol (pictorial). Yn ddiweddarach cynrychiolai arwydd ysgrifenedig lythyren yn unig, a chasgliad felly o bedair llythyren ar hugain oedd yr abiec cyntaf yn y byd. Darluniadol, eto, oedd iaith ysgrifenedig Babilonia ar y cychwyn, a phob darlun yn cynrychioli gair ac wedyn sillaf yn unig ni symudodd Babilonia, fel yr Aifft, mor bell â dyfeisio abiec o lythrennau, eithr parhaodd y sillaf i fod yn unit yr iaith ysgrifenedig yn y cyfnodau hyn. Yr oedd,