Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd, yn yr Aifft gymaint â thri dull o ysgrifennu llythrennau breision (hieroglyphic) i arysgrifau'n unig, yr hieratic, sef talfyriad o'r cyntaf a chyfaddas i'r brwyn-bapurau, a'r demotic, neu dalfyriad eto o'r ail. Ac yr oedd gan Babilonia ei dull ei hunan a elwid yn cuneiform, oherwydd bod rhywbeth yn ffurf yr arwyddion a ysgrifennid ar y clai yn gwneuthur i ddyn feddwl am gŷn (gair Lladin yw cuneus, yn golygu cŷn).

Pobl y ddwy wlad yma, hefyd, a fu'r rhai cyntaf i rannu'r flwyddyn yn gyfnodau misol. Dilynodd y naill a'r llall y lleuad i ddechrau, ond gan nad oedd pob un o fisoedd y lleuad yr un hyd, penderfynodd yr Eifftiaid rannu'r flwyddyn i ddwsin o gyfnodau o ddeng niwrnod ar hugain yr un, ac ystyried y pum niwrnod oedd dros ben yn wyliau. Y mae'n debyg mai'r Babiloniaid a fu'n gyfrifol am wythnos o saith niwrnod, a duwiau arbennig a lywodraethai pob un ei ddiwrnod ei hun. Buont am ganrifoedd heb rifo'r blynyddoedd, ac adweinid hwynt drwy gyfeirio at rywbeth hynod a ddigwyddasai ynddynt, yn union fel y cyfeiria pobl Llanuwchllyn at "flwyddyn y lli mawr," neu y clywir ambell ddyn weithiau'n dyddio popeth o'r "flwyddyn pan oeddwn i yn faer." Wedi sefydlu'r breniniaethau, dechreuwyd rhifo'r blynyddoedd yn ôl teyrnasiad un teyrn ar ôl y llall. Y mae'n amlwg, oddiwrth hyn i gyd, fod rhywbeth y gellir o leiaf ei alw'n ddechreuad gwyddoniaeth yn bod yn gynnar iawn yn y gwledydd hyn. Gwyliai'r offeiriaid y sêr, gwyddent ryw gymaint am ddeddfau rhif a mesur, a gwelwn oddiwrth arysgrifau Babilonia a'r Aifft fod meddwl dyn yr adeg honno'n troi o gylch problemau y talodd dynoliaeth sylw mawr iddynt ar hyd y canrifoedd wedi hynny.