Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynyddoedd euraidd ei hanes, gwir arweinydd Groeg oedd Athen, prif dref rhandir Attica, a hynny'n bennaf am ddau reswm. Ym mrwydr fawr Groeg yn erbyn Persia syrthiodd y pen trymaf o'r baich a'r cyfrifoldeb ar Athen, a'i milwyr a'i morwyr hi, yn anad neb, ym Marathon (490 C.C.) ac yn Salamis (480 C.C.) a ddiogelodd ryddid Ewrop rhag gorthrwm Asia yn yr ymdrech fawr honno rhwng Gorllewin a Dwyrain. At hynny, y mae'n amheus a welwyd mewn unrhyw wlad fechan, neu mewn un oes, gynifer o wŷr enwog o ran athrylith a dawn ag a gyfoesai â'i gilydd yn Athen yn y bumed ganrif C.C. Dyma oes y gwladweinydd Pericles a'r cerflunydd Phidias, yr athronydd Socrates a'r bardd Sophocles, a llu o rai tebyg iddynt. Prin y bu erioed y cyfryw flodeuo ardderchog ar wareiddiad mewn tymor mor fyr, a'r adeg honno yr oedd poblogaeth Attica gyfan yn llai nag un Lerpwl heddiw.

Sut, ynteu, y dylid disgrifio'n rhwymedigaeth i'r bobl amryddawn hyn? Y mae cyfnod Groeg, medd un awdurdod, yn un pwysig yn hanes gwareiddiad oherwydd yr hyn y rhoddes ddiwedd arno, sef hen oes traddodiad, ac hefyd oherwydd yr hyn a gynhyrchodd ei hun ac a wnaeth yn bosibl yn y dyfodol. Ym marn un arall, y Groegwyr a gliriodd lwybr dynoliaeth i gyfeiriad rhyddid gwleidyddol, i ymchwil ddofn am wybodaeth ac i sylweddoli prydferthwch Natur. Ac fel hyn y cais yr Athro Gilbert Murray, un o'r awdurdodau gorau sydd gennym, ddisgrifio'n dyled i'r Groegwyr. Y mae rhai pethau, medd ef, sy'n werthfawr a phwysig ynddynt eu hunain, megis darlun neu gerdd anfarwol a phethau eraill oherwydd yr hyn a ennill y byd drwyddynt fel, dyweder, deddfau da neu ryw