restru yn yr un dosbarth â Kepler a Newton a Darwin. Ef, meddir, a ddyfeisiodd y screw a'r lever, ac adroddir aml stori ddiddorol amdano. Mewn Bywydeg (biology) gellir cyfeirio at waith Aristotl ar hanes Anifeiliaid a gwaith ei ddisgybl, Theophrastus, ar hanes Llysiau.
Yr oedd meddwl y bobl yma yn un mor ymchwilgar fel y mynnent nid yn unig astudio pethau o'u cwmpas, a phethau y gallent eu defnyddio er mantais iddynt eu hunain, ond hefyd gofynnent gwestiynau mwy cyffredinol ynglŷn â natur a tharddiad y byd ac ystyr bywyd ei hun. Amrywiol ryfeddol fu eu hatebion i gwestiwn y Rhodd Mam parthed y defnydd y crewyd y byd ohono. O ddwfr, meddai Thales; ond o ddefnydd diderfyn, amhenodol, meddai Anaximander. O awyr, dywedai un arall; o dân meddai Heraclitus, ac o Rif yn ôl Pythagoras, sylfaenydd mathematics Ewrop. Dywedai Empedocles fod pedair elfen yn dragwyddol—daear, dwfr, awyr, a thân—a bod Natur yn gwneuthur arbrofion parhaus cyn cynhyrchu'r perffaith, rhyw fath ar ddewis naturiol (natural selection) a arweiniai yn y man i ffurf o fywyd oedd a gobaith parhad ynddo. Ym marn Anaxagoras, yr elfen a lywodraethai bob elfen arall oedd meddwl, a thrig honno ymhob peth byw, hyd yn oed mewn planhigion, fel egwyddor eu bywyd. A'r atom, meddai Democritus, yw sylfaen popeth: nid yw'r byd a'r cyfan sydd ynddo yn ddim amgen na chyfuniadau gwahanol o atomau â'i gilydd. Ganwyd Thales yn 640 C.C., a Democritus lai na dwy ganrif ar ei ôl (460 C.C.), a rhyngddynt daw'r enwau eraill yn ogystal a gwŷr na chyfeiriwyd atynt o gwbl. A dengys ffaith fel