Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac, er iddo groesi i Brydain, bu'n rhaid i Caesar adael y gwaith o ddarostwng ein gwlad i'w olynwyr. Ef yn ddiau yw un o ddynion mwyaf hanes (100-44 C.C.), a'i waith ef a wnaeth ymerodraeth Rhufain yn bosibl. Ni chymerth Caesar ei hun yr enw ac ni ddiddymodd ffurfiau'r werinlywodraeth ar unwaith: ond dictator neu ymherodr ydoedd serch hynny. Cyfrifir ei olynydd, Augustus, y cyntaf o'r ymerodron Rhufeinig (31 C.C.-14 O.C.) ac, fel y gwyddys, yn ystod ei deyrnasiad ef y ganwyd Crist yn un o daleithiau dwyreiniol y llywodraeth.

Heb fanylu gormod am yr hanes gellir dywedyd bod cyfnod euraidd yr ymerodraeth yn ymestyn o ddyddiau Augustus hyd farw ymherodr a'r athronydd Marcus Aurelius (180 O.C.). Dyma gyfnod y cryfhau a'r lledaenu mawr ar allu Rhufain: y pryd hynny llywodraethai o Brydain a Spaen yn y Gorllewin i Galdea ac Armenïa yn y Dwyrain, ac o'r Aifft yn y Dehau tu draw i enau Rhein yn y Gogledd. Ac, ar y cyfan, llywodraeth deg a chadarn oedd un Rhufain, er bod ambell ymherodr yn deyrn creulon, a rhai o'i swyddogion yn y taleithiau'n enwog am eu rhaib. Ond eithriadau oedd y rhain: gwyddai'r byd yn awr, a'i gymryd at ei gilydd, beth oedd byw'n ddiogel a pheth oedd mwynhau heddwch pur gyffredinol (y pax Romana). Yna am ganrif hyd esgyniad Diocletian (284 O.C.) daw cyfnod cythryblus pan dyfodd gallu'r fyddin ac y siglwyd llawer ar deyrngarwch deiliaid Rhufain. Cymerth Diocletian y cam pwysig o rannu'r ymerodraeth yn ddwy, gydag un ymherodr yn y Gorllewin a'r llall yn y Dwyrain. Arweiniodd hyn yn fuan i esgeuluso Rhufain a'r Eidal, ac erbyn 330 O.C. yr oedd Caercystenyn (yr hen