Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Byzantium) yn ddinas wych a dwy feistres yn ceisio llywodraethu'r byd. Weithiau unid y ddwy ymerodraeth dan un teyrn, a digwyddodd hynny am y tro olaf dan Theodosius (379-395 O.C.). Ymhen canrif daeth diwedd ar hen ymerodraeth Rhufain yn y Gorllewin pan eisteddodd Odoacer, cadfridog nifer o lwythau Almaenaidd, ar hen orsedd y Caesariaid yn y flwyddyn. 476 O.C. Parhaodd yr ymerodraeth ddwyreiniol ymlaen, ond yr unig ymherodr mawr a gynhyrchodd yn y cyfnod yma oedd Justinian (527-65). Ef gasglodd ddeddfau Rhufain ynghyd ac a adeiladodd eglwys enwog San Sophia yn brif gysegr Cristnogaeth Ddwyreiniol. Ychydig flynyddoedd wedi marw Justinian, cododd proffwyd enwog yn y Dwyrain, Mahomet (570-632), ac ymhen canrifoedd wedyn, pan oresgynnodd y Tyrciaid Gaercystenyn, trowyd San Sophia yn deml Fahometanaidd.

Dywedwyd eisoes mai doniau ymarferol oedd rhai amlyca'r Rhufeiniaid, ac enghraifft nodedig ohonynt oedd eu llwyddiant yn gweinyddu llywodraeth yr ymerodraeth. Sylfaenesid hi i raddau mawr ar fuddugoliaethau milwrol, eithr rheolid hi wedyn gyda thegwch a chyfiawnder, a rhoddes y Rhufeiniwr le uchel yn ei gredo wleidyddol i deyrngarwch i'r ymherodr a ffyddlondeb yn ei wasanaeth. Yr oedd eu system, hefyd,

yn un hynod o fanwl. Rhoddid talaith fawr dan gynrychiolydd uniongyrchol yr ymherodr neu'r senedd, a than hwnnw ceid swyddogion a ofalai am adrannau llai, ac weithiau caniateid i dywysogion brodorol lywodraethu dan nawdd Rhufain, fel Herod yn Judea gynt. Datblygasant ddulliau manwl o weinyddu talaith, a thrwy eu deddfau a'u trethi a moddion eraill gafael ddigon tynn oedd eiddo'r Rhufeiniaid ar eu deiliaid.