Un praw allanol o'r llwyrder hwnnw a'u nodweddai oedd y ffyrdd ardderchog a gysylltai Rufain â'i thaleithiau a'r taleithiau â'i gilydd. Ar hyd y ffyrdd hyn y symudai'r byddinoedd a gwahanol swyddogion y llywodraeth fel y llythyrgludwyr, a defnyddid hwynt gan fasnachwyr ac eraill i ehangu dylanwad Rhufain a chwanegu at ei chyfoeth. Yn olion y prif-ffyrdd godidog hyn, fel mewn ambell bont neu fur Rhufeinig a erys hyd y dydd hwn, cawn rywbeth sy'n help inni weld lle'r oedd cuddiad cryfder y bobl feistrolgar yma.
Fe sylweddolir mor fawr fu'r gwaith a gyflawnodd Rhufain a chymaint fu ei chyfraniad i wareiddiad Ewrop a'r byd, pan feddyliwn am y dinasoedd dirif a unwyd ganddi dan un llywodraeth gref neu'r cenhedloedd lawer yn y Dwyrain a'r Gorllewin a wareiddiwyd pan ddaethant dan iau Rhufain. Er iddi unoli'r holl fyd adnabyddus bron dan un system o ddeddfau, bu'n ddigon doeth i beidio ag anwybyddu nodweddion neilltuol y gwahanol genhedloedd, a llwyddodd yr un pryd i greu math ar wlatgarwch neu deyrngarwch ymerodrol o un pen i'r llall o'i llywodraeth Bron na ellid dywedyd mai dyma'r tro cyntaf y llwyddwyd i wneuthur hyn yn hanes y byd: er nad dyma'r tro cyntaf y sefydlwyd ymerodraeth lle'r oedd hynny, o ran egwyddor o leiaf, yn bosibl Perthyn y clod am hynny i Alecsander Fawr, a dyna'r gwahaniaeth rhwng ei ynerodraeth ef â rhai cynharach yr Aifft a Babilonia. Ceisiodd yntau uno'r byd yn un gymdeithas, a honno'n un y ffynnai cyd—raddoldeb rhwng pob aelod ynddi â'r holl aelodau eraill. Yn y ddau syniad yma deuwn ar draws rhywbeth gwahanol i ddim a welwyd yn y byd cyn hyn a gwahanol i'r hyn a gymerth le'r ymerodraeth