Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athronyddol o ddeddf natur (ius naturale) ac aethpwyd i gredu bod gwreiddiau deddf y cenhedloedd, sef Cyfraith Rhufain yn yr ystyr ehangaf, yn natur y byd a bywyd dyn fel dyn. Yn wir, hawlid mai gogoniant y gyfundrefn oedd ei bod yn gydnaws â natur ac angen cynhenid dyn. A phan dderbyniodd yr ymerodraeth Gristnogaeth, nid rhyfedd ydoedd i bobl fynd gam ymhellach a honni mai cyfraith Duw oedd y gyfraith naturiol yma.

Y system fawr hon, yn enwedig yng nghasgliad yr ymherodr Justinian (Corpus Iuris Civilis) a gariodd ddylanwad Rhufain drwy'r byd ymhell ar ôl diddymu'r ymerodraeth ei hun. Yn awr, caethgludodd Rhufain ei chaethgludwyr hithau, oherwydd, er i genhedloedd dieithr feddiannu'r ymerodraeth, mabwysiadwyd rhannau helaeth o gyfraith Rhufain ganddynt. Pan dorrwyd yr ymerodraeth i fyny, ac y dechreuodd cenhedloedd presennol Ewrop gymryd eu lle, Cyfraith Rhufain a roddes ffurf i'w bywyd hwythau am genedlaethau. Bu Dehau Ffrainc fyw dani hyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r Almaen am ganrif wedyn, a hi sydd wrth wraidd cyfundrefnau cyfreithiol bron holl wledydd y Gorllewin. Ac nid gwleidyddwyr a brenhinoedd yn unig a wybu amdani. Hebddi hi ni chyfodasai chwaith y gyfraith Ganonaidd neu'r Ddeddf Eglwysig, oherwydd sylfaenesid honno ar ddwy sylfaen. Y naill yw'r Ysgrythur a thraddodiadau'r Eglwys a'r llall yw Cyfraith Rhufain, a rhodd bennaf Rhufain i wareiddiad yn ddiamau a fu honno.

Y mae'n bryd inni, erbyn hyn, wynebu un cwestiwn diddorol arall, a'r olaf ynglŷn â mawredd Rhufain. Paham, tybed, y syrthiodd ymerodraeth a fu unwaith mor gadarn a disigl â hon? Oni ellid disgwyl, gan