fwyaf o bobl y pryd hynny. Groeg oedd honno, a thua chanol y drydedd ganrif C.C. dechreuwyd cyfieithu'r Hen Destament i Roeg yn Alecsandria, a chariodd y cyfieithiad hwn (y Deg a Thri-ugain, fel y'i gelwir) wybodaeth o undduwiaeth yr Iddew i bob gwlad lle siaredid Groeg neu y trigai Iddewon ynddi. Ac nid yn unig fe ddeallai'r rhan fwyaf o'r byd y daeth Crist iddo yr iaith Roeg, ond hefyd syniadau ac athrawiaethau Groeg gan mwyaf a ffurfiai awyrgylch feddyliol y byd hwnnw. Byd o newid a berw mawr yn feddyliol a chrefyddol oedd y byd Helenistaidd, fel y gelwir y byd o amgylch y Môr Canoldir a Gorllewin Asia wedi dyddiau Alecsander Fawr. Dadfeiliai hen grefyddau Natur a'r crefyddau gwladol a chenedlaethol, ac yn eu lle ymddangosai rhai ehangach eu hapêl. Cododd cri o fwy nag un cyfeiriad am grefydd gyffredinol i'r holl fyd. Meddiennid rhai o gyfrin-grefyddau'r Dwyrain, megis rhai Isis a Mithra, ag ysbryd cenhadol; hawliai ymherodr Rhufain addoliad ei holl ddeiliaid; a throes rhai athronwyr yn bregethwyr selog, gan ffurfio ysgolion neu sectau o'u disgyblion. Erbyn hyn yr oedd undduwiaeth a syniadau uchel am ddyn yn bethau gweddol gyffredin ymhlith meddylwyr athronyddol a chrefyddol, a thrwy ddefodau a ffurfiau'r cyfrin-grefyddau ceisid diwallu anghenion gwirioneddol dyn am waredigaeth ac anfarwoldeb. Nid byd di-grefydd, o leiaf, oedd yr un y daeth Crist iddo, eithr un a deimlai ei dlodi a'i angen ysbrydol ac a hiraethai am grefydd a'i gwir fodlonai.
Ac erbyn dyddiau'r Iesu, unwyd y byd yn allanol hefyd dan lywodraeth Rhufain, a hawdd yw deall gymaint mantais a fu hynny i Gristnogaeth. Os ydoedd