Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gristnogol, digon, ar ddiwedd y bennod hon, fydd enwi'n unig y pedair nodwedd a esyd y gwareiddiad hwnnw, ym marn yr Athro W. R. Matthews, mewn dosbarth ar ei ben ei hun.[1] Y gyntaf yw'r gred mewn cynnydd a datblygiad parhaus. Nid pob crefydd a ddysg mai ymlaen yn hytrach nag o'r tu ôl y mae'r oes euraidd; ond y mae'r syniad am gynnydd er gwell o hyd wrth wraidd Cristnogaeth ac yn hanfodol i'w bywyd. Nodwedd arall yw gallu'r grefydd hon i uno pobl o wahanol genhedloedd â'i gilydd mewn undeb gwirioneddol. Ac, er lliosoced a dyfned y dylanwadau a wahana ddynion oddiwrth ei gilydd, y mae'n rhyfedd gymaint y llwyddodd Cristnogaeth i'w huno a chymaint y mae a'i golwg ar gyflawni yn hyn o beth yn y dyfodol. Yna rhaid inni roi lle i'w chred yn yr egwyddor o ryddid dyn yn unigol a chymdeithasol. Er rhagored gweriniaeth Groeg yn nyddiau Pericles, pell ydoedd o fod yn un wir ddemocrataidd, oherwydd ni sylfaenesid hi ar ryddid cyson a diymwad pob dyn. Yn lle hynny, bodolai tu allan i'r ddinas y gwahanfur rhwng y Groegwr a'r barbariad a thu mewn iddi y gwahanfur rhwng y dinesydd rhydd a'r caethwas. A chyfyd y nodwedd hon o'r egwyddor arall a bwysleisiodd Cristnogaeth, sef gwerth cynhenid dyn fel dyn. Onid gwir dywedyd mai hi a ddarganfu bwysigrwydd personoliaeth dyn, hi'n sicr a roddes arbenigrwydd ar hynny, oherwydd cyhoeddodd fod pob dyn yn blentyn Duw a bod Crist wedi marw er ei fwyn. Ac heb syniad uchel am bersonoliaeth dyn, ni cheir chymdeithas gwladwriaeth gwerth yr enw.

  1. Studies in Christian Philosophy, II, tt. 56-66.