PENNOD VIII
Y CANOL OESOEDD
ENW cyfleus ar y canrifoedd rhwng diddymiad gallu Rhufain yn y Gorllewin yn y bumed ganrif a'r Dadeni yn y bymthegfed ganrif yw'r Canol Oesoedd. Ymestyn y cyfnod maith hwn, a siarad yn gyffredinol, oddeutu mil o flynyddoedd, a rhennir ef weithiau'n ddwy ran. Y canol oesoedd cynnar neu'r oesoedd tywyll yw'r rhan gyntaf (500-1000), a dilynir hwynt gan yr oesoedd canol diweddar. Wrth gwrs, y mae'n anodd, onid amhosibl yn wir, nodi unrhyw ddyddiad pendant iawn fel dechrau neu ddiwedd cyfnod mor hir,
I ryw raddau, cynnyrch y rhai a'i rhagflaenodd yw pob cyfnod, a bodola'r fath beth ag unoliaeth hanes drwy'r canrifoedd. A dylid cofio, hefyd, na ellir pwyso'n rhy fanwl ar lythyren unrhyw ddisgrifiad o gyfnod, oherwydd y mae i bob cyfnod fwy nag un nodwedd. Enw rhai pobl, er enghraifft, ar yr oesoedd tywyll yw oesoedd ffydd, ac y mae peth gwir yn y ddau ddisgrifiad: a gellir dywedyd am oesoedd sifalri a rhamant, mai rhai digon creulon a diddychymyg oeddynt ar lawer cyfrif. Dibynna cymaint ar ein safbwynt, a gwelwn ymhob rhyw gyfnod yr hyn a chwennych ein ffansi fwyaf.
Cyfnod diddorol yw'r canol oesoedd mewn mwy nag un ystyr, ac yn hanes gwareiddiad nid rhai dibwys mohonynt o lawer. Er eu tywylled, ni lwyr ddiffoddwyd lamp diwylliant ynddynt; ac er mor farbaraidd oeddynt, erys rhai pethau'n glod iddynt. Ond rhyfedd mor araf y symudai ac y cynhyddai gwareiddiad drwy