Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r hynotaf o'u holl frenhinoedd oedd Siarlmaen (771-814), un o ddynion mwyaf y Canol Oesoedd. Almaenwr ydoedd o ran iaith, milwr o ran crefft, a gwladweinydd hirben a galluog neilltuol; ac yng nghaneuon a thraddodiadau canol Ewrop nid yw ei fri'n annhebyg i'r eiddo Arthur yn llên y Gorllewin. Ar ddydd Nadolig yn 800 coronwyd y dyn rhyfedd hwn yn ymherodr Rhufain gan y Pab yn Eglwys Sant Pedr. Dyma gychwyn y syniad am Ymerodraeth Santaidd Rhufain, sef y deyrnas ddaearol a fodolai i amddiffyn y Babaeth ac i hyrwyddo Cristnogaeth. Mewn rhyw ffurf neu'i gilydd parhaodd y syniad am fil o flynyddoedd, hyd oni ddiddymwyd ef yn 1806. Yr amcan oedd uno Ewrop dan awdurdod y Pab a'r ymherodr, eithr rhyw rith o'r peth a fodolai'n unig y rhan fwyaf o'r amser, a bu cweryla mynych rhwng y llywodraethwr ysbrydol a'r un gwladol. Cododd rhwystrau eraill ar ffordd sylweddoli'r syniad, fel ffiwdaliaeth ac wedi hynny cenedlaetholdeb cryf y gwahanol wledydd. Yn fuan iawn, oherwydd gwendid olynwyr Siarlmaen, bu'n rhaid rhannu ei ymerodraeth yn dair teyrnas, sef eiddo'r Ffranciaid Dwyreiniol (Almaen), Ffranciaid y Gorllewin (Ffrainc) a'r Deyrnas Ganol, yn cynnwys yr Eidal a dwy dalaith sydd heddiw'n rhan o Ffrainc. Rhannwyd y drydedd, drachefn, pan ffurfiodd yr Eidal frenhiniaeth ar ei phen ei hun, ac o oes i oes âi'r map yn debycach i un Ewrop ein dyddiau ni.

Beth am fywyd y cenhedloedd yn y Canol Oesoedd ? Yn ddiamau dyma gyfnod euraidd Ffiwdaliaeth. Yn awr y cyrhaeddodd ei lawn dwf, er bod iddo hen hanes. Fely gwanhâi'r llywodraeth ganolog ac y llifai cenhedloedd i mewn i'r ymerodraeth heb gydnabod ei hawdurdod,