Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwfn iawn mewn llu o ffyrdd ar fywyd y gwledydd hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. A pheth bynnag oedd ei rhagoriaethau, amlycach inni, erbyn hyn, yw ei diffygion. Yr oedd stad o ryfel parhaus bron yn anwahanol oddiwrthi, ar gyfrif awydd pob rhyw arglwydd i'w wneuthur ei hun yn gryfach na'i gymdogion ac yn annibynnol arnynt: ac, yn yr eithaf arall, yr oedd sefyllfa caethion y tir yn druenus dros ben. Y mae'n wir i'r Eglwys dyneru tipyn ar elfennau garw'r gyfundrefn, ond nid oedd llawer o'i phrif swyddogion hithau fawr amgen nag arglwyddi ffiwdalaidd cryfion eu hunain: gwyddai aml farwn a marchog mai dyn i'w ofni oedd abad mynachdy, a hynny nid yn unig am y gallai fwrw eu heneidiau i uffern ond am fod nerth ei fraich yn fwy na'r eiddynt hwy. Gwanhawyd llawer ar ffiwdaliaeth pan dyfodd y trefi i fri a phwysigrwydd. Nid yn y tir yn unig yr oedd cyfoeth mwyach ond yn y trefi a'u masnach, a bu'n rhaid i arglwyddi fenthyca arian oddiar fasnachwyr i gario eu rhyfeloedd ymlaen. A phan godai brenin cryf i lywodraethu ar wlad ac y cynhyddai'r teimlad cenedlaethol, dihoenai'r gyfundrefn ffiwdalaidd fwyfwy. Ar ryw gyfrif nid system anaddas mohoni ar ddechrau'r Canol Oesoedd, pan symudai pobl dan eu pennaeth i feddiannu gwlad newydd, eithr collodd lawer ar ei gallu a'i grym lle bynnag, cyn diwedd y cyfnod, y sefydlwyd breniniaethau cenedlaethol cryf. Ond er pob newid, ni ryddhaodd Ewrop ei hun yn llwyr hyd yma o afael ffiwdaliaeth, ac amlwg yw ei delw ar lawer sefydliad yn y Gorllewin heddiw.

Amherffaith hollol fyddai unrhyw ddarlun o'r Canol Oesoedd heb le blaenllaw ynddo i'r Babaeth, y sefydliad mawr crefyddol y perthynai pawb drwy Orllewin Ewrop