Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Gwareiddiad.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo. Tu allan i'r Eglwys Babaidd nid oedd iechydwriaeth i ddyn, a throsedd yn erbyn Duw fai peidio â bod yn deyrngarol iddi. Gwnai honiadau uwchlaw rhai pob gallu daearol, hawliai ufudd-dod oddiarnynt ar boen eu bywyd a'u heddwch tragwyddol, a chyffelyb i berthynas y lleuad i'r haul oedd perthynas y wladwriaeth i'r Eglwys ym marn arweinwyr y Babaeth. Fwy nag unwaith gwelwyd ymerodron llwyddiannus fel Theodosius ym Milan a Henri'r IV (1056-1105) yng Nghanossa dan orfod plygu i'w hawdurdod. Canolbwynt dylanwad y Babaeth, wrth gwrs, oedd Eglwys Rhufain, a chyfrif mwy na un ffaith am hyn. Ynghyntaf, dyna'i thraddodiadau hen fel prifddinas yr ymerodraeth gynt; wedyn, dyma'r unig un o eglwysi'r Gorllewin y bu cysylltiad rhyngddi ag apostolion (SS. Pedr a Phaul). Araf, y mae'n wir, y cydnebu rhai eglwysi eraill safle Rhufain, ac ar hyd y canrifoedd gwrthododd yr Eglwys Ddwyreiniol wneuthur hynny; ond yn y Gorllewin nid oedd a gystadlai â hi, ac yn fuan edrychid i fyny ati fel arweinydd Cristnogaeth y Gorllewin a phrif amddiffynnydd y Ffydd. At hynny, cynhyddai ei chyfoeth a'i gallu tymhorol o hyd, yn enwedig pan gyflwynodd Pepin, tad Siarlmaen, y tiroedd yng nghanol yr Eidal a gymerth ef oddiar y Lombardiaid yn rhodd i'r Pab. Bu, hefyd, ambell Bab o allu anghyffredin ac yn llywodraethwyr cryfion fel Gregory Fawr (590-604), Hildebrand neu Gregory VII (1073-85) a Boniface VIII (1294-1303). Yn wir yr oedd y Babaeth yn y Canol Oesoedd yn wladwriaeth bwysig a'i dylanwad yn hynod o fawr ar wleidyddiaeth y gwledydd. Heblaw bod yn "was gweision Duw " (servus servorum Dei), yr oedd y Pab hefyd yn deyrn