Ni byddai'n iawn troi oddiwrth y Canol Oesoedd heb gyfeirio at un peth a rydd fri arbennig arnynt, sef gwaith godidog adeiladwyr castelli ac eglwysi Gothig Ewrop. Gelwir eu dull o adeiladu yn "Gothig" i'w wahaniaethu oddiwrth ddulliau clasurol Groeg a Rhufain, a chyda tipyn o ddirmyg yr arferid y gair i ddechrau adeilad o waith Gogleddwr, onid yn wir barbariad, oedd un felly. Eithr nid rhaid iddynt gywilyddio, yn enwedig os meddylir am yr hyn a wnaethpwyd ganddynt oddeutu'r drydedd ganrif ar ddeg pryd y blodeuodd y dull hwn yn holl ogoniant ei binaclau a'i golofnau a gemwaith digyffelyb ei ffenestri. Daeth gwaed newydd ac ynni newydd i gelfau cain Ewrop gyda dyfodiad y cenhedloedd newydd, ac un praw amlwg o hynny yw prif eglwysi enwog fel rhai Cologne, Rheims a Milan a Mynachlog Westminster.
Rhoddwyd, hefyd, cyn eu diwedd fynegiant perffaith mewn llên i ysbryd y Canol Oesoedd gan un o feirdd mwya'r byd. Yn ei Ddwyfol Gerdd (Divina Commedia) darluniodd Dante (1265-1321) y dylanwadau sy'n esbonio'r Canol Oesoedd yn eu gwendid a'i gogoniant, a'r tri chyferbyniad a rêd drwyddynt yn ddidor—y cyferbyniad rhwng yr Eglwys a'r Ymerodraeth, rhwng y naturiol a'r goruwchnaturiol, a rhwng y byd hwn a'r byd a ddaw. Er ei holl uniongrededd, canodd Dante yn y Divina Commedia gnul diwinyddiaeth a chyfundrefnau moesol y Canol Oesoedd. Nid annhebyg yw ei gân, ym marn Edward Caird,[1] i borth rhyw brif eglwys fawr: tu mewn i'r porth yr ydym yng ngoleu gwannaidd crefydd y Canol Oesoedd, ond pan awn drwyddo, wele "lawn deg oleuni dydd" cyfnodau diweddar.
- ↑ Yn ei draethawd ar "The Theology and Ethics of Dante yn ei Essays on Literature and Philosophy, I, 25-52.