PENNOD IX
DADENI A DIWYGIO
PAN sonnir am gyfnodau diweddar hanes, wyneba'r un anhawster ni â phan sonnid am y Canol Oesoedd: ni ellir nodi dyddiad pendant neu enwi'r flwyddyn y terfynodd yr oesoedd hynny ac y dechreuodd hanes diweddar. Ond cysylltir y naill gyfnod â'r llall gan ddau symudiad a weddnewidiodd lawer ar Ewrop. Un yw'r Dadeni neu Adfywiad Dysg, a'r llall yw'r Diwygiad Protestannaidd. Yr oedd Ewrop y drydedd ganrif ar ddeg yn wahanol iawn i Ewrop yr unfed ganrif ar bymtheg mewn llu o ffyrdd, a'r esboniad gorau ar y gwahaniaeth yw'r ddau symudiad yma. Eithr unwaith eto ni ellir datgysylltu'r ddau gyfnod yn llwyr oddiwrth ei gilydd, er cymaint y gwahaniaeth rhyngddynt. Ymhell cyn diwedd yr Oesoedd Canol paratowyd cryn lawer ar gyfer y Dadeni a'r Diwygiad: yn wir, ni allai fod amgen os oes elfen o unoliaeth a pharhad mewn hanes. Yn y drydedd ganrif ar ddeg cawn feddyliwr fel Thomas Aquinas (1227-74), y "doctor angylaidd " a geisiodd briodi Cristnogaeth ag athroniaeth Aristotl, a gwyddonydd fel Roger Bacon (1214-92), ac yn Huss a Wyclif cawn ddiwygwyr cyn y Diwygiad. Ac hyd yn oed ar ôl deffroad dysg ac adfywiad crefydd ni lwyddodd Ewrop i ymysgwyd yn llwyr o ddylanwad ffurfiau a gwareiddiad y Canol Oesoedd.
Un o nodweddion amlycaf y cyfnod newydd yw dirywiad sefydliad mawr y Canol Oesoedd. Collodd y Babaeth i gafael ar feddwl a gwrogaeth dynion, a