gwanhaodd ei dylanwad ar lywodraethwyr a theyrnasoedd Ewrop. Gynt gosodasai ei hofn arnynt, ond erbyn hyn yr oedd y Babaeth dan bawen Ffrainc, ac o 1307 hyd 1376 cartrefai'r Pab yn Ffrainc (Avignon), yn alltud o Rufain. A phan ddaeth y bennod hon, sef Caethglud Babilon y Babaeth, i ben, digwyddodd peth gwaeth fyth. Rhannwyd y Babaeth, ac o 1376 hyd 1417 yr oedd yn Ewrop ddau Bab a dwy ffynhonnell anffaeledigrwydd. Hawdd dychmygu gymaint y syrthiasai'r Babaeth yn syniad y gwledydd ar gyfrif y pethau hyn, ac er cyfanu'r rhwyg a phenodi Martin V yn unig Bab yng Nghyngor Constance (1414-18), nid adfeddiannodd y Babaeth ei safle a'i hawdurdod megis cynt. Yn wir, yr oedd cynnal cynghorau fel rhai Constance, Siena (1423), Basle (1431-49) a Florence (1439) yn un o arwyddion yr amserau ac yn braw nad oedd crefydd y Canol Oesoedd mwyach wrth fodd deiliaid ffyddlonaf y Babaeth.
Nodwedd arall bwysig iawn oedd fod cenedlaetholdeb yn cryfhau, a syniad mawr arall y Canol Oesoedd, sef un Ymerodraeth ochr yn ochr ag un Eglwys, yn cilio. Er pob gwrthwynebu o du'r barwniaid ceid yn Lloegr, Ffrainc a Spaen freniniaethau cenedlaethol dan lywodraethwyr cryfion a fu'n barod i ymddiried rhywfaint o allu i'r werin.[1] Dan amodau ffafriol fel hynny datblygwyd cryn dipyn ar lywodraeth leol yn y trefi a'r siroedd, a thyfodd gallu'r seneddau cenedlaethol yr un pryd. Cododd, hefyd, yn y gwledydd hyn ddosbarth canol pwysig i fod yn wrthglawdd rhag llywodraeth pennaeth anghyfrifol ar un llaw, a rhag cyffroadau direol poblogaidd ar y llall. Po fwyaf y tyfai'r syniad
- ↑ J. S. Hoyland, A Brief History of Civilization, tt. 181-88.