nid yn unig yn Nuw a'r byd ysbrydol ond hefyd yng ngogoniant gweithredoedd dwylo dyn a phrydferthwch digymar y byd o'i gwmpas. Ac nid oedd arweinwyr cymhwysach iddo ar hyd y llwybrau newydd hyn na llenorion cyfnod euraidd Groeg gynt, ac ysbryd rhydd, ymchwilgar y Groegwr a'i llywodraethai'n awr. Gydag un o feirdd Rhufain gallasai ddywedyd nad ystyriai ddim ynglŷn â dyn islaw ei sylw, a humanists a fu'r enw a roddwyd ar y sawl a'u cyflwynodd eu hunain yn awr i astudio llên gyfoethog Groeg a Rhufain. Nid edrychai'r Eglwys yn ffafriol iawn ar bob datblygiad yn hanes y mudiad hwn, ond ceir weithiau ambell Eglwyswr sy'n gorfforiad o'r ddau ysbryd. Un felly oedd Erasmus, yr ysgolor a gyhoeddodd argraffiad o'r Testament Newydd Groeg yn 1516 ac a ddymunodd ddiwygio crefydd drwy fynd yn ôl at Grist fel dysgawdur ac esiampl yn hytrach na diogelu yn eu crynswth ddefodau ac athrawiaethau'r Eglwys.
Ond nid troi'n ôl i'r hen fyd yn unig a wnaeth dyn yn y cyfnod hwn: daeth awydd anniwall i chwilio am wledydd newydd drosto hefyd. Dechreuasai hyn, eto, cyn diwedd y Canol Oesoedd. Bu'r Croesgadau'n symbyliad mawr i deithio'r gwledydd, ac yn 1295 cyhoeddasai Marco Polo hanes rhyfedd ei ymdaith ef yn China a Japan.
Yn ystod y ddwy ganrif nesaf hwyliai morwyr anturiaethus allan o borthladdoedd y Gorllewin i bob cyfeiriad mewn ymchwil am diroedd i fasnachu ac ymgyfoethogi ynddynt. Morwyr Portugal fu'n arwain i ddechrau, a chyn canol y bedwaredd ganrif ar ddeg darganfuwyd ynysoedd y Canary a'r Azores ganddynt. Erbyn diwedd y ganrif wedyn (1486) yr oedd Diaz wedi hwylio