hynny, ond dengys rhai o lawysgrifau'r cyfnod dlysed a cheined gwaith ydoedd. Dan amodau felly cymerai amser maith i ysgrifennu llyfr o unrhyw faint, a'r un faint o amser drachefn i wneuthur copi ohono, ac felly'n naturiol nid rhyw lawer o lyfrau oedd i'w cael. Ond unwaith y meistrolwyd dulliau argraffu, gellid sicrhau nifer fawr o gopïau o lyfr yn weddol hawdd a chyflym. Gwaith Gutenberg ym Mainz ar Rhein sy'n sylfaen y gelf yn Ewrop, a'i Lyfr Salmau a'i Feibl ef yw'r llyfrau argraffedig cyntaf o bwys yn Ewrop (1455). Gwellhawyd y ddyfais yn fuan, yn enwedig yn yr Eidal lle'r arferid llythyren lai na llythyren ddu (Gothig) Gutenberg. Erbyn 1500 y mae'n ddiau bod miloedd o lyfrau argraffedig yn Ewrop lle gynt ni bu ond ychydig lawysgrifau. Os teimlai'r Pregethwr bedair canrif cyn Crist nad oedd "ddiben ar wneuthur llyfrau lawer" beth, atolwg, fuasai ei brofiad yn Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg neu, waeth fyth, yn Ewrop ein dyddiau ni? Er mwyn dangos gyflymed y mabwysiadwyd y ddyfais ymhob gwlad yn Ewrop digon fydd nodi ychydig ddyddiadau diddorol. Cyhoeddodd Tindale ei Destament Newydd Saesneg yn 1526, ac ymddangosodd y Beibl Saesneg cyntaf cyflawn mewn print yn 1535. Yng Nghymru daeth Testament Newydd argraffedig o'r wasg yn 1567 (Testament Wm. Salesbury), a Beibl yr Esgob Morgan yn 1588. A phrawf y pwys a roddwyd yn fuan ar y priodoldeb o gael yr Ysgrythyrau yn nwylo'r bobl mor ddylanwadol yn hanes dyn a'i wareiddiad y gallasai dyfais Gutenberg fod.
Yng nghyfnod y Dadeni nid gormod fyddai dywedyd mai'r Eidal oedd arweinydd Ewrop, a rhyfedd debyced