blaenaf, yr hwn a elwir Caer Castell, deuwyd o hyd i ben adeilad, sylfaen yr hwn oedd yn mesur 150 troedfedd o hyd wrth 72 o led. Cafwyd yma hefyd dair o geryg; ar y gyntaf yr oedd y geiriau canlynol,—"Caii artis manibus primus;" ar yr ail, Overioni;" ac ar y drydedd, "Cohors secundæ Augusta fecit quinque passus . . . ."[1]
Tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, ac ar dyddyn a elwir Tymawr, yr oedd capel, yr hwn a elwid Capel Penrhiw. Y mae llawer o chwedlau yn cael eu dyweyd am dano, y rhai nid gwiw eu hadrodd heb brofion digonol iddynt; ond hyn sydd sicr, sef pan oeddid yn codi ceryg o'r hen fagwyr lle bu, cafwyd penglog mewn crochan yno, ac yr oedd y crochan o wneuthuriad hollol ddyeithr i'r edrychwyr. Dygwyddodd hyn er ys tua phymtheg mlynedd yn ol. Mae yn ddiamheu, pe buasid yn cloddio ychwaneg, y cawsid rhagor o bethau henafol. Dywedir iddo gael ei ddystrywio yn y flwyddyn 1106, gan Ithel a Madoc, y rhai oeddynt yn gwneyd y fath alanastra yn y sir hon y pryd hwnw. Cafodd Llanddewibrefi, yr hon sydd ar ei bwys, ei harbed ganddynt; a gallwn feddwl iddo yntau gael ei arbed hefyd.
Tua hanner milltir yn uwch i fyny, ar lan afon Teifi, y mae "Tomen Llanio." Gan nad oes son am dani fel castell Cymreig na Normanaidd, bernir iddi gael ei hadeiladu gan y Rhufeiniaid, oblegid yr oedd ganddynt lawer o'r cyfryw ar hyd lan Teifi, er gwilio neu gadw eu banifeiliaid.[2]
Yr oedd hefyd, tua hanner milltir i'r gogledd o Lan— geitho, gastell o'r enw Castell Odwyn; ac yn ol barn