Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Meyrick,[1] yn mhlwyf Ceitho yr ydoedd. Yr oedd hwn yn un o brif gastelli'r sir, a cheir ei enw yn mhlith y 24 a nodir felly. Yn y 15fed ganrif, ei breswylwyr oeddynt Gruffydd Voel a Moythe, y rhai oeddynt arglwyddi. Y Gruffydd uchod oedd perchenog Gogerddan; ac o hono ef y mae y teulu presenol wedi hanu. Nis gwyddom pa bryd y cafodd y castell hwn ei adeiladu, na pha bryd y syrthiodd; ac nid oes dim o'i olion er profi pa le yr ydoedd.

Gerllaw i Gastell Odwyn y safai Glyn Aeron. Coffeir am dano fel hen drigle boreu. Ei breswylydd cyntaf oedd Ievan, mab i Gruffydd Voel o Gastell Odwyn; ac enwau y rhai canlynol oeddynt levan Lloyd, a Rhydderch, y bardd, yr hwn a briododd Maud, merch Gruffydd Grug. Yr oedd gan Rhydderch fab o'r enw Jenkin, yr hwn a briododd ferch Syr W. Clement, arglwydd Caron; ac yr oedd ganddo hefyd ferch a'i henw Llio, am yr hon canodd Dafydd Nanmor fel y canlyn:—

"Llio eurwallt, lliw arian,
Llewych mellt, ar y lluwch mån:
Mae ar ei phen seren serch,
Lliw rhuddaur, Llio Rhydderch,"[2] &c.

Tua thair milltir yn mhellach y mae Castell Ffiemys, yr hwn a adeiladwyd gan y Fflemingiaid, pan ar eu taith drwy y rhan hon o Gymru.

I'r gogledd-orllewin, drachefn, o Langeithio, y mae lle a elwir Crwnfryn, yr hwn sydd yn hen drigle. Cawn mai ei breswylydd cyntaf oedd Meyric Goch, a'r nesaf oedd Dafydd Llwyd Fongam.[3].

  1. Meyrick's History of Cardiganshire, p. 270.
  2. Ibid, p. 300.
  3. Ibid, p. 279