Yn hen amser yr oedd llawer o fynachdai ar hyd y wlad, a llawer o fynachod ynddynt. Yr oedd y cyfryw fynachod yn tra-arglwyddiaethu ar y trigolion, a chedwid y bobl mewn dygn anwybodaeth. Cymerai y mynachod hyn fantais ar eu hanwybodaeth; ac y mae llawer o bethau a luniwyd ganddynt heb lwyr ddiflanu hyd heddyw. Os credir llawer, y mae ysbryd neu fwbach ar ben pob heol, canwyllau cyrff yn ymlwybro tua'r fynwent bob amser o'r nos (ond paham na byddent y dydd felly?) Nis gall neb eu gweled ond y cyfryw a anwyd ar ryw amser penodol Clywir canu hefyd ac wylofain yn myned o dŷ cyn i un o'r teulu farw, a lloaws o bethau cyffelyb, y rhai nad oes ond ychydig iawn yn eu credu yn yr oes oleu hon.
Yr oedd rhywbeth yn hen eglwys Llangeitho yn dangos iddi fod yn lle o bwys unwaith. Yr oedd cysgodlen ddwbl yn gwahanu y ganghell oddiwrth gorff yr eglwys, y rhai oeddynt gynwysedig o dri bwa addurnedig bob un, a'r cyfan yn dangos cynllun manwl o'r gweithiau Gothaidd. Hefyd, yr oedd arnynt luniau adar ac ymlusgiaid digrifwedd. Yr oedd ar yr areithfa yr amseriad 1635.
Yn y flwyddyn 1819, adeiladwyd eglwys bresenol Llangeitho yn lle yr hen un,—y mae yn mesur tua 15 llath o hyd wrth tua 7 o led o fewn i'r muriau, ac yn y pen gorllewinol iddi y mae oriel. Oddi allan, ar y mur, y tu dwyreiniol, y mae beddfaen Mr. Rowlands, &c. Y beddfaen henaf a ganfyddwn yma sydd â'r dyddiad 1718 arno. Dengys cofres a gyhoeddwyd yn Nhy-Ddewi, yu y flwyddyn 1717, enwau gwahanol noddwyr eglwysi yr Esgobaeth, a gwelwn mai noddwyr eglwys Llangeitho ydynt rydd-ddeiliaid y plwyf.[1]
- ↑ Meyrick's History of Cardiganshire, p. 40.