Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddiwrthyn nhw, a hynny byth bythoedd. Yno y bydd i corngyddfa nhw'n sych gorn, a'r rwm-pwnsh, er yn ymyl, eto fyth allan o gyrraedd. Dyma bobol y Gadewch inni gael sport! Yn y diwedd y bydd hi'n sport arnyn nhw:—y rwm-pwnsh o'u cyrraedd a nhwythau'n crasu ar yr aelwyd eirias!' Mewn araeth yn yr Ysgol Sul y dywedid hyn, a theimlai rhai y dywediad yn niffygiol mewn lledneisrwydd. Ar grefyddwyr y byddai'r ymosodiad amlaf am gynnal y fasnach. Nid oedd mesur ar yr ymosodiad hwnnw. Yn uchter ei wŷn e fyddai fel tarw gwyllt yn eithaf llygadfrith, gan fwrw'r an-gar o'i ffroenau a chodi'r twmpathau â'i gyrn. Gwae a galanas i'r gwrthwynebwyr! Fe'n swynid ni'r ieuainc gan y campau gorchestol hynny fel y swynir y glomen wirion gan frithliwiau'r sarff dorchog. Ond, wedi'r cwbl a ddyweder, yr oedd Sion Robyn, megis Peleas gynt, wedi ymddiofrydu y dygai'r hwrdd a'r croen euraid o drais o Ynys Golcos; ac ynghanol torf â'u hamcanion. yn rhy hunanol ac isel, oni pherthyn iddo yntau rywbeth o glod arwr?

"Gwr go darawiadol yr olwg arno oedd Sion Robyn. Pen hirgul yn ymestyn ymlaen, a phrydwedd go dywyll. Llygaid. llym, a fflam ynddynt pan enynasid y teimlad; trwyn yn pontio ar y canol fel carn ellyn; gwallt du rhawnog yn tyfu braidd yn llaes, ac o'r tucefn yn edrych fel pwys o ganwyllau gwêr yn crogi o'r nenfwd; clwt moel o'r tucefn i bennau y clustiau yn awgrymu'r moelni o amgylch bôn gylfin yr hen rwgfran; y ddau ddant blaen yn yr uchannedd yn taflu allan braidd, a'r dannedd o danynt yn yr îs-en yn taflu peth allan, fel, o'r naill ochr, fe awgrymid gylfin y fwltur; tafod hirfain, gan ei hyd yn dod i'r golwg yn awr ac eilwaith; llais llym, treiddgar, ar brydiau â sain y chwibanogl ager ynddo. Golwg aiddgar oedd arno. A'i feddwl yn llawn o'i bwnc, fe'i gwelid yn ysgrialu myned heibio conglau'r heolydd.

"O ran dawn, dylifiad ffrwd y mynydd oedd hwnnw, yn rhwygo'i ffordd ar draws rhwystrau, a'r rhwystrau eu hunain yn chwanegu at y rhamantedd. Llymder yn ymnewid yn frwd- frydedd oedd ei dymer. Dan ddylanwad brwdfrydedd yr oedd ei afael yn rhywbeth fel eiddo ci hela yng nghlust baedd. Er hynny fe esgeulusai ei fasnach, a methodd ganddo ddal ei afael yn y pared. Fe gawsai'r fasnach, o'i ran ef, fyned yn ysbrotas er mwyn dirwest. Y fodfedd feddal sy'n rhwyddaf i brofedig-