Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

offeryn eithaf anwardd oedd tafod Sion Robyn, ac nid oedd arno ef fymryn o ofn unrhyw Og brenin Basan o wrthwynebydd, nad allasai efe roddi iddo cystal a gawsai unrhyw ddydd y codai hwnnw o'i wely haearn mawr. Cof gennyf am dro pryd y cyfarchai yn yr awyr agored, gan daflu at berchenogion amryw dafarnau o fewn cyrraedd ei lais, ar ol rhyw wrthwynebiad cyhoeddus go gyndyn iddo o eiddo un ohonynt,—O fil- einiaid y fagddu! Ac mae rhai ohonoch yn proffesu crefydd! Pam na rowch eich enw priodol ar y sein uwchben y drws,—Yr Hen Gorff? Tybed nad oes rhyw daranfollt ddirgelaidd ynghadw ar gyfer eich bathau chwi yng nghawell saethau y nefoedd?' Ac ymlaen am ennyd â chyfryw ymadroddion a hynny. A pharodd ei ddull hwn i Sion Robyn fyned o'r diwedd yn fath ar fwgan brain i'r tafarnwyr, ac nid oedd na chogfran na chigfran na mulfran o dafarnwr yn y cylch a ymgynefinodd âg ef a bod heb arswyd ohono.

"Eithr fe geid aml beth eithaf difyr gan Sion Robyn, megis ateb yr hen wreigan honno i'r diotwr y cwynai hi wrtho fod ôl diod arno. Addefai yntau iddo gael rhyw beintyn, ond na welai efe yn ei fyw ddim niwed yn hynny. Atebai hithau, pan oedd hi eisieu gweled i weu ei hosan mai dodi'r gwydr gyferbyn â'i llygaid y byddai hi; ond am dano ef mai dodi'r gwydr yn ei safn y byddai ef; a pha fodd y gwelai efe ddim i'r pwrpas felly? Dichon na ddaliai'r ateb feirniadaeth; ond llawer cymhwysiad anrhesymegol ar y pwnc yma a geid yn y dyddiau hynny. Pa waeth? Onid oeddynt yn gwneuthur y tro am y pryd?

"Er hynny, yr oedd gan Sion Robyn ei amcan yr anelai yn deg ato, ac yn hynny yr ydoedd i'w gyffelybu, nid i Sion Gilpin, ond yn hytrach i Syr Dafydd Gam ar gefn ei gaseg Bwbach, nad oedd nemor heblaw croen ac esgyrn. Dyna fo, Syr Dafydd Gam, yn anelu at felin wynt y Gwalchmai ym Môn! Nid gwiw i'w hen yswain disyml, Siencyn Benhydd, geisio ei rybuddio mai melin wynt oedd yno. Cewri'r Fall oedd melinau gwynt Môn i Syr Dafydd. Gwelwch ei waewffon wedi ei chyfleu yn deg, a'r hen Fwbach yn tuthio ar gyfer y felin wynt! -a Siencyn Benhydd yn bloeddio ei rybuddion! Waeth heb, dyna aden y felin yn hyrddio Syr Dafydd a Bwbach nes eu bod yn ymdreiglo bendramwnwgl ar glawr daear goch. Am fod melinau gwynt yn ymenydd Syr Dafydd Gam y camgymerai ef