Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felinau gwynt am gewri. Er hynny, amcan da oedd gan Syr Dafydd Gam.

"Ond dyweder a ddyweder, nid llai gwr na Pheredur ei hun oedd Sion Robyn ar dro, ar gefn ei gaseg wynnedd yntau. Dull go fawreddog o ddodi'r gwrthwynebwyr ar neilltu oedd gan Sion Robyn ar dro, a chwerw brofiad a gawsont hwythau oddiwrth hynny. Caseg Peredur oedd o ran maint fel anifail cors, un o olion y cynfyd; a'i charnau, fel march Iwl Caisar, wedi eu hollti'n fysedd, a chorn bychan ar ei phen ôl. Fel y tuthiai caseg Peredur drwy goedwig Llaneurgain, fe ymosodid arni gan bryfetach a chacwn. Ar hynny hi siglai hithau ei chynffon rawn y ffordd yma a'r ffordd acw, i fyny ac i lawr, i'r naill ochr ac i'r llall, nes dymchwelyd ohoni'r cedrwydd a'r deri â'r un hawsder ag y pladuria'r pladurwr y cawn a'r cegyrn, fel na chlybuwyd mwy sôn yn y parth hwnnw am goedydd na dreiniach, am na chyrs nac ysgall na phengelyd, nac ychwaith am na chlêr duon na chlêr llwydion, na chacwn coed na chacwn geifr na chacwn meirch. Mewn cyffelyb fodd, yn annisgwyliadwy weithiau, fe ddodai Sion Robyn arswyd ar dafarnwyr, neu yfwyr cymedrol yr eglwysi, ac ar flaenoriaid a phregethwyr, nes swatio ohonynt yn eu crwman, a diflannu ohonynt o'u lleoedd. Gresyn na buasai efe yn amlach wedi arfer y ddawn aruchel hon, a oedd mewn gwirionedd yn gynhennid yn eiddo iddo, gan roi ei ofn ar ddrwg weithredwyr, yn hytrach na bod yn gyff gwawd iddynt.

"Yn rhy fynych o lawer, ysgwaetheroedd, y marchogai Sion Robyn ei farch pren, gan ymsymud ol a blaen, i fyny ac i lawr, drwy gorff gydol einioes, ac â mawr drwst, gan floeddio a llemain, a chan uchel glecian ei chwip, eto heb dramwy o'i le yn stafell y plantos, ac fel rhyw gapten y crytiaid, nid, fel y dylasai efe fod, yn un o gapteniaid dewisol y brenin.

"Rhaid addef am Sion Robyn ddarfod iddo flino atsain ei hun braidd â'i dafod leferydd. Ond aroswch! am y marw dim ond da, chwedl y teithydd hwnnw am y cwrw wrth wr y llety. Ac ar ei derfyn gallesid dywedyd am Sion Robyn, megis y dywedwyd am Syr Dafydd Gam, sef, os na chyrhaeddodd mo bethau mawrion, eto y bu efe farw yn eu herlyn hwy.

"A dyna (2) Morgan Ifan drahauslyd wrth yfwyr cymedrol. Ni phetrusodd ef argyhoeddi yn. gyhoeddus un o hen weinidog-