Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion parchusaf Arfon,— A chwithau, Hwn a hwn, yr oedd casgen o gwrw yn mynd i'ch tŷ chwi neithiwr dan rith bod yn gasgen finegr.' Ateb yr hen weinidog ydoedd na wyddai efe ddim am hynny; ac nid oedd neb a'i hamheuai. Ar yr adegau hynny pan fyddai dirwest yn uchel ei bri, e fu Morgan Ifan, fel ci hela, yn siolffa ar hyd yr ardal am hanesion ar y fath yma. Fe argyhoeddodd rai amryw weithiau erioed yn y dull cyhoeddus hwnnw. Tafarn dduwiol' y galwai efe'r Half Way yn yr ardal, lle'r arferai rhyw nifer o bobl y seiat ymgynnull. 'Ciwed Sodom' oedd un o'i ymadroddion am yfwyr cymedrol; 'gweilch drycin' oedd un arall; meibion Belial' oedd un arall; cynhalwyr y Pandemoniwm oedd un arall; 'Sataniaid a Saduceaid' oedd un arall, sef cyfuniad go annisgwyliadwy oedd hwnnw. Os na byddai pregethwr yn llwyr-ymwrthodwr, nid ae Morgan Ifan i wrando arno.

Nid oedd pregeth o nemor werth yn ei olwg os na chawsid rhywbeth y gallesid ei ddeongli fel yn cefnogi llwyr-ymataliaeth, neu ynte ei bod yn ymosod ar ryw ddrygau cymdeithasol. Yr ydoedd wedi bod yn ofer ei hunan yn ei ieuenctid, a phan ddaeth dan ddylanwad dirwest fe'i hysgogwyd i'r eithaf cyferbyniol, ac yna ni wnae dim mo'r tro ond ymosod ar ddrygau. Nid ymagorodd yr Efengyl erioed ar ei ddirnadaeth yn ei llawn ogoniant cynhennid fel trefn gras. Deddf, nid gras, oedd ei syniad llywodraethol ef. Fel crefyddwr, cadw ar neilltu a ddarfu yn yr eglwys, er mwyn bod yn rhydd i weithredu yn llwyr ar bob achlysur o safle dirwest; ac yn y man fe esgeulusai gyfarfodydd yr eglwys. Yn ei gyfnod olaf nid arddelai yr enw o grefyddwr yn yr ystyr cymdeithasol, er yn arddel egwyddorion yr Efengyl. Yr ydoedd, yr un pryd, yn athro ymroddgar yn yr ysgol. Fe'i profwyd yn wr cyfiawn, anrhydeddus ym mhob trafodaeth rhwng dyn a dyn, ac o garictor cyffredinol difrycheulyd. Dros ben bod yn gyfiawn, yr oedd, hefyd, yn elusengar, yn enwedig tuag at wragedd a phlant meddwon; a gweinyddai ei elusen wrth y rheol i beidio a gadael i'w law aswy wybod pa beth a wnelai ei law ddehau. Fe wnaeth dirwest hyn o les iddo, sef peri iddo feddwl am fod o ryw ddefnydd i eraill. Nid oedd dim o'r hen Snich ym Morgan Ifan: nid oedd dim yn gwta yn ei ffordd. Nid ydoedd fel rhai dirwestwyr, yn ymloddestu yn eu dirwest annwyl, heb feddwl unwaith am lesau neb arall; yn hytrach fe ymeangodd ef mewn ymdrechion