Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymhlaid eraill. Yn amser y Temlwyr Da e fu'n myned â pharti a gynhullodd ynghyd i gynnal cyfarfodydd yma ac acw, pryd y ceid adrodd a chanu ac areithio. Ni feddai ei hunan ar ddawn neilltuol fel siaradwr, er y cyfarchai gyfarfodydd. Ar dro elai ei araeth yn rhyw bwt fel post clwyd. Er na fyddai heb beth gwynt gorchest ar brydiau. Yr oedd yn wr pwyllgor rhagorol, a gwnaeth lawer o waith yn y ffordd honno, yn enwedig yn amser y Temlwyr Da. Ac fe'i teimlid yn gyffredinol yn wr o gryn rym. Hytrach yn esgyrniog ydoedd, a theneu yn fwy na heb, a gweithredu fel yn naturiol iddo; ac eto â theimlad ynddo allan o'r golwg. Heb fod yn dal nac yn llydan iawn, yr oedd cadernid yn ei gerddediad fel yr hwyliai ymlaen yn ei het ffelt o hanner llun het silc, sef yr het coryn sgwâr fel ei gelwid. Yr oedd yn rhyw gymaint yn warrog, ac estynai ei ben ymlaen wrth gerdded, gan edrych o dan ei sgafell braidd. Drych o'r dyn oddimewn oedd y dyn oddiallan: pendant, penderfynol, ymroddedig i'w amcan, di dderbyn- wyneb, heb ei oleuo gan feddyliau eangfryd. Er hynny yn ddyn y gwyddid ym mha le i'w gael, ac i ddibynnu arno yn yr hyn a broffesai. Siop deiliwr a gedwid ganddo, ac yr oedd ei frethyn o'r goreu yn y wlad i gyd. Pâr o ddillad gan Forgan Ifan nid ydoedd nemor is ei gradd na siwt ledr George Fox, cymwys i ddal ar bob tywydd ac i barhau am ddarn helaeth o oes, a delid i'w gwisgo yn fynych tra byddai siwtiau teiliwriaid eraill yn myned yn ysgyrion y naill ar ol y llall. Llefarodd y pâr dillad â thafod clywadwy o blaid Morgan Ifan. Rhyw delpyn o graig ysgythrog ydoedd, ond nid heb ffynnon guddiedig; a cheid y deigryn gofer yn ymdreiglo i lawr yn lladradaidd ar hyd ystlys y graig. Anhawdd meddwl nad oedd Morgan Ifan wedi cael cip o olwg ar Dad yr Amddifaid a Barnwr y Gweddwon yn ei Breswylfa Sanctaidd. Ond dirwest y temtiasid dyn i ddweyd oedd ei grefydd ryw fodd-dirwest, dirwest, annwyl ddirwest! Melodi Paradwys i Forgan Ifan oedd sain y gair titotal. Da gennyf ddarfod i mi ei adnabod, a hyderaf i'w esiampl fod yn rhyw les i mi.

"Cywydd y gwcw a ganai Forgan Ifan yn wastad drwy'r flwydyn gron, haf a gaeaf, at wyneb blwyddyn cystal a thymorau'r cynhaeaf. Ni pherthynai efe i'r medleiwyr hynny a fynn rwyf ym mhob cwch, ac eithaf gorchwyl y cyfrifai efe rwyfo'i gwch ei hun ar gyfer hynny o synnwyr y cynysgaeddwyd ef