Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

âg ef, a lluman dirwest wen a chwifiai ymhen blaen y cwch hwnnw. Mewn deugain mlynedd a mwy nid aeth pwnc dirwest allan o flas gan Forgan Ifan, ond fe chwareuai â difyrrwch di bendraw iddo'i hun ar nodau a thonau dirwest drwy gorff gydol yr amser. Rhyw Gawr Gwlifar oedd Dirwest i Forgan Ifan, a laniwyd gan donnau Ffawd ar lannau Gwlad Lilipwt, ac, fel bechgyn a genethod Lilipwt, fe chwareuai yntau a'i gymdeithion fig-ymguddio à difyrrwch a chrechwen a gorhoen didor yng nghudynau gwallt y Cawr.

"Yr oedd ei ardymheredd, wrth ystyried, yn ei dueddu i'r dull hwnnw. Prin y gwyddai efe oddiwrth gymhwedd ond wrth weled eraill yn chwerthin, ac yna fe chwarddai yntau yn ei dro yng nghorn ei wddf yn drefnus a phwyllog. Hynny o arabedd oedd ynddo, ar ffurf bratheiriau y ceid ef. A gallai frathu weithiau i'r byw. Fe gyfarfyddai ei uchannedd a'i is-en â'i gilydd yn y cnawd ar dro, sef pan fyddai yn deg dan gyffro teimlad. Nis gallasai gynhyrchu unrhyw feddyliau neilltuol ychwaith wrth geisio paratoi ar gyfer anerchiad. Po fwyaf ei wewyr yn y ffordd honno, lleiaf yn y byd yr ymddangosai ei fod wedi esgor arno. Er hynny, gan rym ei deimlad, fe ddywedai ambell beth ar antur a lynai yn y cof, megis y dywediad hwnnw, mai'r ddiod oedd y bradychwr mwyaf ar gymeriad dyn; a bod yr yfwr diod yn cynnwys Judas o'i fewn ei hun. Yr hen Forgan! A dyna'r dywediad hwnnw o'i eiddo, a fwriadwyd i galonogi'r sawl oedd yn ymdrech yn erbyn y chwant am ddiod, nad oedd dim melystra mor fawr a'r un a darddai o'r fuddugoliaeth ar demtasiwn lem; a bod y bara hwnnw yn blasu yn well a enillasid drwy chwys y wyneb. Ond rhaid addef mai cryn gecri a chraster a geid ganddo, megis ag yr oedd yn rhy gynefin i'r hen ddirwestwyr.

"Nid gwr heb galch yn ei fol oedd Morgan Ifan. Fe ddaliodd yn y ffydd ddirwest i'r anadl olaf. Pan ddaeth angeu ymlaen gan gyffwrdd ynddo â'i frysgyll, y sill ddiweddaf i gyd a ehedodd oddiwrtho ar aden yr anadl olaf ydoedd dir——. Tybid gan y rhan fwyaf mai dirwest yn rhyw lun neu'i gilydd a lyncai ei fryd ef yn yr olaf adwy gyfyngaf.

"O'r tri gwr yr wyf yma yn bwriadu cyn gorffen fod wedi sôn am danynt, efe, ar y cyfan, mi dybiaf, oedd y cryfaf a'r mwyaf ei ddylanwad. E fu ei ddylanwad ar ei linell ei hun yn un go fawr, a hwnnw at ei gilydd yn llesol. Dylanwad ar wedd