Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Frederick Smith a William Reid a William Hoyle ac Eliphalet Nott o'r Amerig. Fe chwarddai yn nifyrrwch ei deimlad uwchben llyfrynnau J. W. Kirton, awdwr Buy your own cherries, a llyfrynnau eraill o'r rywogaeth yma gan yr un awdur neu awduron eraill. Mawr y goglais arno weithiau wrth weled droi'r byrddau ar y tafarnwr neu'r yfwr cymedrol neu'r meddyg a gymhellai'r arfer â'r ddiod. Er bod ohono yn eithaf ddall-bleidiol at y Babaeth, yr oedd ganddo olwg fawr ar Father Mathew a'i waith dros ddirwest, a darllenodd amryw bethau yn ei gylch, ac yn eu plith cof gennyf am lyfryn arno gan Laurence Gane. Yr wyf yn ei enwi ef yn unig i ddangos nad ar antur yr wyf yn dywedyd y pethau yma. Mi ddarllenodd gryn swrn erioed o bregethau ar y pwnc, megis eiddo G. M. Murphy ar Dagon a'r Arch; a darlithiau, megis eiddo Joseph Livesey ar y Ddiod Frâg, sef un o'r chwe dirwestwr cyntaf yn Preston ydoedd ef, y man y cychwynnodd y mudiad yn y wlad hon; ac eiddo Jabez Inwards hefyd, sef enw y cyfeiriwyd ato unwaith gan Robertson Nicoll fel un eithafol o anffodus; a dadleuon, megis eiddo Henry Varley y diwygiwr crefyddol â'r Temlwyr Da, a'r ddadl ynglyn â'r ymrwygiad o fewn Temlyddiaeth Dda, pan sefydlwyd cymdeithas newydd gan F. R. Lees, ac amryw fân ddadleuon ynglyn â gwahanol agweddau ar ddirwest; a dramodau ag nad oedd John Barleycorn ond un o amryw ohonynt; ac adroddiadau gwahanol gymdeithasau a chyfresi tystiolaethau meddygon yn erbyn y ddiod, a chwedlau a dialogau ac almanaciau a chaneuon a straeon a nofelau. Nid dim llai na llond amryw fasgedi dillad a wnaethai'r llyfrynach yna, a pheidio â son am y llyfrau pwysicach a ennwyd ymlaenaf; neu, o leiaf, fe wnaethent hynny pe taflesid hwy i mewn bendraffollach, ac heb eu cyfleu mewn trefn a dosbarth. At ddiwedd oes, fe ddigwyddws iddo daro ar sgrifeniadau O. S. Fowler, y penglogydd Americanaidd, a pherthynas i'r L. N. Fowler a fu yn y wlad hon, ar Anghymedroldeb, ar y Dybaco, ac ar De a Choffi. Mi lynodd Morgan Ifan i'r diwedd wrth ei de a choffi, doed a ddelo, er y dyrysid ef nid ychydig wrth ganfod mor gryf y gallesid gwneuthur y rhesymau yn erbyn y diniweitiaid hynny. Ond o ran y dybaco cystal a'r ddiod fe gydgerddai gam a cham â gwr y benglog. Llyfr a fenthyciais ganddo, ac a wnaeth argraff ddwys arnaf yn nyddiau tyner ieuenctid, oedd y Passages from the history of a wasted life, sef eiddo gwr o'r