Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Amerig, er nad oedd iddo enw neilltuol fel awdwr. Yn ddiweddarach mi welais gyfeiriad at yr awdwr yn hunan-gofiant Gough. Gwnaeth Gough fwy o ymdrech i achub y dyn hwnnw o grafangau meddwdod nag a wnaeth â neb arall, ond yn ofer. A pha beth bynnag a allasai fod yn niffygiol yn nodweddiad Morgan Ifan, fe'i llonnid wrth weled llencyn yn ymddifyrru mewn llyfr sylweddol. Llyfr arall a fenthyciais ganddo, a chyfaredd lenyddol ynddo, oedd Sketches Walter Raleigh, rai ohonynt yn cymell dirwest, ac heb hynny ni welsid llyfr o'r nodwedd yma ymhlith ei lyfrau ef. Mi fenthyciais ganddo hefyd ddwy nofel, sef Danesbury House a By the Trent. Ys gwir y clywais ganddo fwy nag un ymadrodd hallt yn erbyn nofelau; ond ba waeth, onid nofelau dirwest oedd y rhain? Ni ddeallais fod ganddo hoffter yn y byd at gelf ar unrhyw fath; er hynny fe bwrcasodd lyfr lluniau S. C. Hall yn dangos effeithiau Diod, a mawr ymhyfrydai ynddynt, oblegid cymell dirwest oedd eu hamcan hwy.

"Mi ddigwyddais pan yn hogyn fod yn llygad-dyst o waith dau hogyn, o'r siop ar ryw achlysur yn symud ei lyfrau o'r naill stafell i'r llall. Lluchid y llyfrau ganddynt heb nemor gwrteisrwydd, y naill ar ol y llall, i'r fasged ddillad fawr. Dacw gyfrol faintiolus F. R. Lees a Dawson Burns ar Winoedd y Beibl yn hedeg dindrosben drwy'r awyr! Ar ol hynny dyna Bacchus Dethroned Frederick Smith ei hunan wedi ei ddiorseddu ac yn disgyn dap i'r fasged. Wedi hynny, wele Temperance Reformation James Smith, rholyn o lyfr, yn hedeg dibyn dobyn drwy'r awyr at y fasged! Ar hynny, dyna Morgan Ifan ei hun i'r golwg. Aruthur oedd hyd ei wep yn y cipolwg cyntaf ar y plantos bwhwmanllyd yn troi ei lyfrgell ddirwest bendramwnwgl. Ac wedi dod i mewn i'r stafell, a gweled ei lyfrau anwylgu drimbwl drambwl yn y fasged ddillad, anferth ei guwch! Ni feddyliais yn amgen ar y funud nad eu darn ladd a gawsai'r hogiau. Er hynny ni ddigwyddws iddynt waeth na'u gyrru'n ol i'r siop. Yn esmwyth y cydiai Morgan Ifan yn y llyfrau, gan eu codi o'r fasged yn dringar, megis petaent fabanod yn y crud. Fel y troai'r dalennau yn ofalus rhag eu bod wedi derbyn niwed! Fel y cyfleai hwy mor ofalus yn y fasged! Petae Morgan Ifan filiwnydd Amerig, ond odid nad cloriau morocco conglau arian a gawsai'r cyfrolau a gyfrifid yn werthfawrocaf, a chlwstwr ffrwythau arian ar yr ystlys, os nad, yn wir, yr