Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Croen rhychiog yn pletian ar y talcen, nes bod, pan godid yr aeliau, megis petae dwy bibell yn rhedeg ar ei draws o arlais i arlais braidd. Llygaid duon fel eirin tagu wedi colli'r paill, ac yn rhyw fodd yn awgrymu'r eirin tagu, nid o ran y lliw a'r crinder yn unig, ond o ran y surni hefyd yn ogymaint a hynny. A llygaid aflonydd oeddynt, yn gwibio yma a thraw, yn bendifaddeu mewn cyfarfod dirwest; ond yn awr ac eilwaith yn ymsefydlu, gan graffu yn o hir ar rywbeth neu rywun, er y buasai'n anhawdd dywedyd pam. Gwallt yr hen Ifan oedd ei ogoniant, ac yr oedd hwnnw yn ddu fel eboni ac yn llyfn fel silc yr India. Efe a'i gwisgai yn hirllaes heb giw pi, ac wedi ei dorri yn wastad beth yn uwch na chanol y talcen, yn null uniongred yr hen Fethodistiaid, fel y gwelir yn llun Robert Ifan yn y drydedd gyfrol o Fethodistiaeth Arfon, ond wedi ei dorri gan Ifan Ifan yn hytrach yn wastatach na chan Robert Ifan. Yn awr ac yn y man, ond yn amlach mewn cyfarfod di west nag unlle arall, fe dynnai ei law yn araf dros ei wallt silc, nid fyth drwyddo. Ond er mai ei wallt oedd ei ogoniant, ei drwyn oedd ei hynodrwydd. Trwyn byrr, yn cyfeirio yn hytrach at i fyny, a llun botwm corn ar ei ben blaen. Fe barai'r trwyn effaith neilltuol iawn, gan y newidiai ei lun yn fwy na thrwyn yn y byd, yn ol fel y newidiai ei berchen ei safle. Mymryn o dro a dyna ef yn drwyn arall; a thro drachefn a dyna ef yn drwyn arall eto. Yn yr un safle yn unig yr ydoedd efe yr un trwyn. Ac yntau ei hun yn chwannog i droi i'r naill ochr a'r llall, yn enwedig mewn cyfarfod dirwest, yr oedd yn anhawdd edrych arno, ac yn enwedig gwrando arno, heb ysgafnder, neu yr oedd yn anhawdd i ni'r hogiau. Ar ganol y dywediad mwyaf difrif weithiau dyna ryw dro, a chyn sicred a hynny dyna ymdoriad o chwerthin gennym ninnau rai gwamal. Yr oedd y trwyn yma yn arwydd o ddyn a oedd yn agored i ym- deimlo â phob mymryn o ddylanwad o'r tuallan, a chredaf i'n hymddygiad ninnau flino cryn lawer ar berchen y trwyn hwnnw. A braidd na thybiaf fod fy llygaid innau yn gwlitho y mymryn lleiaf wrth ddywedyd hynny. Gwr ydoedd yr hen Ifan, wedi'r cwbl, a ddirgrynai dan wth awel fel tant telyn; ac, fel tant telyn ar ergyd gelfydd, yntau hefyd a roddai allan sain nid anhynod. Er hynny i gyd, rhyw ddyn gwedwst ydoedd, oddieithr ar ei bwnc ei hun; a chimwch cipsur y cyfrifid ef, oddieithr gan ambell un mwy hyddysg na'i gilydd yn nhroeadau'r natur