Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r wlad. Yr oedd ganddo ryw gân yn ei herbyn y soniai am Y trewlwch melyn ffiaidd yn nhrwynau gwragedd da, Yr hyswi goreu'i medr, 'n ansyber iawn a'i gwna. Mi a'i clywais yn sôn am gaisar yn Rwsia yn torri trwynau'r bobl a arferai â'r snwff; a hawdd gweled nad beio'r caisar oedd yr amcan. Mi roeswn rywbeth am glywed eto araeth Ifan Ifan ar y snwff ganddo ei hun. A dyna gân y trioedd i'r snwff!-

Tri pheth a ddylid gadw Yw meddwyn rhag cwrw,
A pheidio ar wagedd roddi'ch serch A ffroenau merch yn icew.

Annhraethadwy y dirmyg a daflai Ifan Ifan ar gnowyr y dybaco, ac yn bendifaddeu ar ei gwaith yn poeri eu slomiad ar lawr y cysegr. Dywediad o'i eiddo ydoedd nad oedd ambell ddosbarth yn yr ysgol yn ddim amgen na man-cyfarfod poerwyr yslyfenllyd.

"Ni welais mo'r hen Ifan yn cyffroi cymaint uwchben dim ag uwchben y sigaret, pan ddechreuai'r arfer honno ddod yn llechwraidd i'r wlad ymhlith bechgyn yn bennaf. Go ddiniwed yr olwg arni oedd yr arfer, ebe fe. Yng ngwyll y nôs gallesid meddwl mai ci'r teulu oedd yno; ond fe geid gweled erbyn y bore mai'r cynffon brws fu o amgylch y lle. Mi a'i clywais yn galw'r smocwyr y torllwyth mwyaf hunanol a welodd efe erioed, a phetae ef ddynes yr aethai at right angles i wr iddo a fai'n smocio. Fe alwai ei hun weithiau yn ddirwestwr oddiwrth y ddiod a'r dybaco. A dywedai fod smocio yn fwy disynnwyr nag yfed: pa beth, fe ofynnai, a allasai fod yn fwy disynnwyr na thynnu mŵg i'r safn a'i ollwng allan drachefn? Fe adroddai ddywediad Dafydd Dafis Cywarch, sef petae ddyn wedi ei fwriadu i smocio y rhoddasid corn ar ei goryn er gollwng y mŵg allan. Mi a'i clywais yn adrodd rhyw rigwm yn sôn am ' yfed y dybaco.' Pa arfer, yn fanwl, oedd honno, tybed? Cof gennyf am dano yn adrodd allan o Araeth Sion Tudur, am yr afradlon yn galw mewn siop lle gwariodd bunnoedd gynt, gan ofyn am werth dimai o dybaco ar goel a'i wrthod, ac yntau'n myned ymaith yn eithaf prudd,

Un llaw yn wag a'r llall heb ddim [cline]!

"Mi fyddai Ifan Ifan yn adrodd dywediad y brenin Iago'r Cyntaf am y dybaco, sef mai patrwm y diffwys ydoedd, yn